Mae’r Mudiad Meithrin y bwriadu cynnal Parêd Pumdeg ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu.

Mae’r mudiad dros addysg Gymraeg i blant yn bwriadu cynnal y parêd am 11.30 fore Sul, Gorffennaf 31.

Cafodd gorymdaith blant o Gylchoedd Meithrin sir Ddinbych ei chynnal ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin eleni hefyd, ond y tro hwn bydd y mudiad yn gwahodd unrhyw sydd un ai’n mynychu Cylch Meithrin yng Nghymru neu sydd wedi bod ynghlwm â’r Mudiad yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf.

Bydd yr orymdaith yn gorffen wrth Lwyfan y Maes lle bydd y diddanwr plant poblogaidd Siani Sionc yn rhoi perfformiad byw gan ganu caneuon poblogaidd i blant bach i’w diddanu nhw a’u teuluoedd.

‘Agored i bawb’

“Rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod Dafydd Iwan wedi cytuno i arwain yr orymdaith arbennig hon i ddathlu carreg filltir bwysig yn hanes y Mudiad a thwf addysg Gymraeg ers yr hanner canrif ddiwethaf,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Mae gwahoddiad agored i bawb i ymuno â ni yn yr orymdaith arbennig hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron – dewch yn llu!”

Dywed Heather Davies-Rollinson, Rheolwr Talaith y De-orllewin fod yna “amcangyfrif y bydd tua 250 o blant a’u teuluoedd yn gorymdeithio i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal yn ogystal â dathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r Mudiad”.

“Rydyn ni hefyd yn croesawu unrhyw blentyn a’i deulu fydd ar y Maes sy’n mynychu Grŵp Cymraeg i Blant, Cylch Ti, Fi Cylch Meithrin neu feithrinfa ddydd yn unrhyw ardal o Gymru i ymuno gyda ni,” meddai.