Mae Plaid Cymru yn gofyn i’w haelodau gynnig syniadau ar gyfer dyfodol y blaid, yn yr hyn mae Adam Price wedi’i ddisgrifio fel yr “ymgynghoriad mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes y Blaid”.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â phynciau megis annibyniaeth, Ewrop a chydweithrediad gwleidyddol.

Daeth Plaid Cymru yn drydydd yn etholiad y Senedd yn 2021, y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr Cymreig, ond enillodd reolaeth dros dri chyngor ychwanegol yn etholiadau lleol mis Mai.

A’r llynedd, fe lofnododd Plaid Cymru gytundeb cydweithio gyda Llafur sy’n ymdrin â 48 o feysydd polisi megis ehangu prydau ysgol am ddim, creu Senedd fwy ac ailbrisio’r dreth gyngor.

Dywed Adam Price y bydd mewnwelediad, gwybodaeth a phrofiad yr aelodau yn llywio strategaeth newydd ac yn galluogi’r Blaid i “weithio’n graff ac yn glyfrach.”

‘Pwyso a mesur’

“Ein haelodau llawr gwlad ni sy’n ein cadw ni’n driw i’n gwerthoedd a’n gweledigaeth, sy’n ein gwneud ni’n radical a pherthnasol,” meddai Adam Price wrth lansio’r ymgynghoriad.

“Dyna pam y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio mewnbwn a syniadau aelodau ar yr ystod ehangaf o faterion a gyflwynwyd erioed i’n haelodau.

“O drefniadaeth y blaid i’r llwybr i annibyniaeth, nid oes yr un garfan arall o aelodau’r Blaid erioed wedi cael y cyfle i lunio blaenoriaethau strategol eu plaid yn y fath fodd.

“Trwy ofyn y cwestiynau cywir – ond nid y rhai hawdd bob amser – y nod yw manteisio ar  fewnwelediad, gwybodaeth a phrofiadau cyfunol yr aelodau er mwyn llywio strategaeth gynhwysfawr sydd wedi’i dylunio i wneud i’r blaid weithio’n graff ac yn glyfrach.

“Annibyniaeth ac Ewrop, cydbwyso adeiladu’r blaid ag adeiladu’r genedl, nodau etholiadol a chydweithrediad gwleidyddol – dyma rai o’r pynciau yr ydym yn ymgynghori ag aelodau arnynt.

“Erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, bydd Plaid Cymru wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.

“Mae nawr yn amser priodol i ni bwyso a mesur – gan gydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu a pharatoi ar gyfer cyfleoedd newydd – a gofyn beth all cyfraniad Plaid Cymru fod wrth i’n cenedl gymryd y camau nesaf ar ei thaith.”