Mae mwy o bobol nag erioed o’r blaen wedi ymgeisio i fynd i’r brifysgol yng Nghymru eleni.

Fe fu cynnydd o 3.7% mewn ceisiadau, sy’n fwy na’r un arall o wledydd y Deyrnas Unedig, yn ôl ystadegau UCAS, y corff sy’n ymdrin â cheisiadau.

Yn ôl data o Fehefin 30 eleni, y dyddiad olaf i wneud cais:

  • mae mwy o geisiadau nag erioed o’r blaen (82,060)
  • cafwyd y cynnydd mwyaf erioed mewn ceisiadau (3.7%)
  • mae mwy o geisiadau nag erioed o’r blaen gan bobol o Gymru (23,500)
  • fe fu cynnydd mewn ceisiadau o dramor (12,500)
  • cafwyd y gyfran fwyaf erioed o bobol 18 oed yn gwneud cais (38.1%)

‘Adlewyrchu’r hyn mae prifysgolion yn ei gynnig i fyfyrwyr’

“Rwyf wrth fy modd o weld y ffigurau heddiw sy’n dangos bod cyfraddau ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru’n parhau i gynyddu, gyda’n sefydliadau’n gweld y cynnydd mwyaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig,” meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru.

“Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig arbennig sydd gan brifysgolion yng Nghymru i’w myfyrwyr, a’r croeso cynnes a’r profiad myfyrwyr gwych y gall pob myfyriwr ei ddisgwyl yn ein sefydliadau.

“Mae gan brifysgolion rôl hanfodol i’w chwarae yn llewyrch economaidd a chymdeithasol Cymru yn y dyfodol, a bydd angen pobol arnom sydd â sgiliau lefel gradd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas.

“Yn y cyd-destun hwn, mae’n arbennig o galonogol gweld fod mwy nag erioed o bobol 18 oed yng Nghymru’n parhau i werthfawrogi’r manteision a chyfleoedd mae addysg yn y brifysgol yn eu cynnig.

“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn ceisiadau o dramor, sydd i’w groesawu.

“Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan werthfawr wrth gynnig amrywiaeth ac wrth ryngwladoli ein campysau a’n cymunedau.

“Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru, a gall y rheiny fydd yn ymuno â ni yn yr hydref fod yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru’n parhau i gynnig cyrsiau o safon uchel sy’n eu gwobrwyo ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial.”