Mae Suella Braverman allan o ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar ôl gorffen yn olaf yn yr ail rownd bleidleisio.
Ar ôl i bleidleisiau’r ail rownd gael eu bwrw, byddai unrhyw ymgeisydd gyda llai na 30 o gefnwyr yn disgyn allan.
Pe bai pawb yn ennill mwy na 30 pleidlais, yna byddai’r un â’r nifer lleiaf o bleidleisiau allan.
Y canlyniad llawn:
Rishi Sunak: 101
Penny Mordaunt: 83
Liz Truss: 64
Kemi Badenoch: 49
Tom Tugendhat: 32
Suella Braverman: 27
Yn ystod ei hymgyrch arweinyddol, roedd Suella Braverman, y Twrnai Cyffredinol, wedi dadlau o blaid tynnu’r Deyrnas Unedig allan o awdurdodaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop yn ogystal â thorri TAW.
Mae’r cyn-fargyfreithwraig wedi gwasanaethu fel Aelod Seneddol Fareham yn Hampshire ers 2015, gan ddisodli Geoffrey Cox fel Twrnai Cyffredinol ddwy flynedd yn ôl.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd pleidleisiau pellach yr wythnos nesaf gyda’r gobaith o leihau nifer yr ymgeiswyr i ddau cyn toriad yr haf sy’n dechrau ddydd Iau (Gorffennaf 21).
Yn y cyfamser, bydd yr ymgeiswyr sy’n weddill yn mynd benben mewn dadleuon ar y teledu ar Channel 4, ITV, a Sky News – ddydd Gwener, dydd Sul a dydd Llun yn y drefn honno.
Yna, ar ôl Gorffennaf 22, bydd dadleuon yn cael eu cynnal ledled y wlad wrth i aelodau’r Blaid Geidwadol benderfynu ar eu dewis ar gyfer arweinydd newydd y Ceidwadwyr.
Yn y pen draw, bydd y Prif Weinidog newydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 5, pan fydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i San Steffan o’u gwyliau haf.
Rishi Sunak, y ffefryn ymhlith Ceidwadwyr Cymru?
Mae’n ymddangos mai Rishi Sunak yw’r ffefryn ymhlith Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru.
Eisoes, mae Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi datgan ei gefnogaeth i Rishi Sunak.
Ac er bod rhai sylwebwyr gwleidyddol wedi awgrymu yr hoffai’r cyn-Ganghellor fod wedi cyrraedd oddeutu 120 o bleidleisiau heddiw, mae Simon Hart yn dal yn ffyddiog mai ef yw’r dewis gorau.
“Dim ond Rishi sydd â’r profiad, gwerthoedd a’r weledigaeth i fod yn Brif Weinidog nesaf ar y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Fel cyn cydweithiwr yn y cabinet, dw i’n gwybod y bydd yn gweithio’n ddiflino i helpu’r holl wlad drwy’r heriau rydym yn eu hwynebu ac ymlaen at ddyfodol disglair.”
Mae dau gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru arall wedi datgan cefnogaeth i’r cyn-Ganghellor, sef Alun Cairns a Stephen Crabb.
“Mae’n onest am yr heriau economaidd sy’n ein hwynebu, ac mae ganddo gynllun clir i fynd i’r afael â chostau byw wrth gynyddu cyflogaeth a chyfle,” meddai Stephen Crabb.
Ac yn y cyfamser mae Fay Jones, Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, hefyd wedi datgan ei chefnogaeth i Rishi Sunak, yn ogystal â Simon Baynes sy’n cynrychioli De Clwyd, ac Aelod Seneddol Sir Fynwy, Craig Williams.
Mae Sarah Atherton a Dr James Davies yn cefnogi Penny Mordaunt, ac roedd Robin Millar a David Jones yn cefnogi Suella Braverman cyn iddi golli ei lle yn y gystadleuaeth.
Roedd Virginia Crosbie yn cefnogi Sajid Javid cyn iddo dynnu allan o’r ras.