Mae gwaith cloddio archeolegol mewn parc wedi datgelu’r hyn a allai fod y tŷ cynharaf i’w ddarganfod yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) – sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth ar waith cloddio – ym Mharc Trelái, hanner milltir o Fryngaer Caerau.

Cyn hyn, roedd archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ac aelodau o’r gymuned wedi dod o hyd i wreiddiau sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig, yr Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.

Roedd arbenigwyr o’r farn fod yr anheddiad, sy’n dwyn yr enw ‘Anheddiad Amgaeedig Trelái’, yn creu’r ddolen hwyraf oedd wedi bod ar goll rhwng diwedd yr Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig cynnar, gan ddangos yr hyn a ddigwyddodd i bobol ar ôl iddyn nhw symud ymlaen o’r Fryngaer.

Ond mae’r tŷ crwn, ger Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, yn dyddio o gyfnod cyn y Fryngaer.

Mae pot clai a gafodd ei ddarganfod ar y safle wedi rhoi syniad mwy pendant i’r tîm o’r cyfnod amser y mae modd olrhain yr adeilad iddo.

Cliwiau cynharaf am wreiddiau Caerdydd

Dywed Dr Oliver Davis o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER, fod “yr hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod yn gwbl annisgwyl a hyd yn oed yn fwy cyffrous”.

“Hwyrach y bydd yr anheddiad amgaeedig hwn yn rhoi’r cliwiau cynharaf inni am wreiddiau Caerdydd,” meddai.

“Mae’r crochan a ddarganfuwyd wedi’i addurno’n hyfryd ac mewn cyflwr da.

“Yn anaml iawn y byddwn ni’n dod o hyd i grochenwaith o’r safon yma.

“Mae hefyd yn anarferol dod o hyd i anheddiad Oes yr Efydd yng Nghymru – dim ond un neu ddau o safleoedd eraill o’r Oes Efydd sydd yn y wlad hon.

“Hwyrach bod y bobol oedd yn byw yma yn aelodau o deulu yr aeth ei ddisgynyddion rhagddyn nhw i adeiladu Bryngaer Caerau.”

‘Datblygiad anhygoel’

Mae bron i 300 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y gwaith cloddio hyd yn hyn, ac mae tua 500 o ymwelwyr wedi dod i’r safle ers iddo agor.

“Daethon ni i chwilio am y ddolen goll rhwng diwedd Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig cynnar,” meddai’r cyd-gyfarwyddwr Dr David Wyatt.

“Mae’r hyn y daethon ni o hyd iddo’n rhywbeth llawer mwy rhyfeddol ac yn llawer hŷn.

“Rydyn ni’n credu bellach ei bod yn bosibl i’r tŷ crwn gael ei adeiladu rhwng canol a diwedd Oes yr Efydd, gan fynd yn ôl i gyfnod rhwng 1500 a 1100 CC.

“Mae’r anheddiad amgaeedig yn bendant yn rhagddyddio’r fryngaer. Roedd pobol yn byw yma cyn adeiladu’r fryngaer.

“Dylai’r gymuned gyfan – yn wirfoddolwyr, yn blant ysgol a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yma. Dyma ddatblygiad anhygoel sy’n taflu goleuni ar drigolion cynharaf Caerdydd.”

Daeth Tom Hicks, archeolegydd a astudiodd ar lwybr Archwilio’r Gorffennol Prifysgol Caerdydd, a’r gwirfoddolwr Charlie Adams o hyd i’r crochan a’i adfer yn ystod y gwaith cloddio.

“Dyma enghraifft o grochenwaith o Oes yr Efydd sydd mewn cyflwr da iawn ac yn ddarganfyddiad arwyddocaol ar gyfer byd archaeoleg yn yr ardal,” meddai Tom Hicks.

“Mae’n gyfle gwych inni ddysgu rhagor am fywydau’r bobl oedd yn byw ar y safle tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.”