Mae Gŵyl Balchder Rhondda Cynon Taf yn dychwelyd i’r Cymoedd y penwythnos hwn, a hynny am yr eildro erioed.
Ac mae’n bwysicach nag erioed bod digwyddiadau balchder yn cyrraedd ardaloedd anghysbell yng Nghymru, yn ôl un o’r sylfaenwyr.
Bydd y dathliad deuddydd yn cynnwys perfformiadau gan bron i 30 o artistiaid, gan gynnwys artistiaid drag poblogaidd a cherddorion lleol.
Yn ogystal, bydd stondinau bwyd a balchder ar gael i bori a mwynhau.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan Lauren a Natalie Bowen yn 2019 ar ôl iddyn nhw sylweddoli bod digwyddiadau balchder yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig, ond nad oedden nhw’n cael eu dathlu yn ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru.
Eu gŵyl yn 2019 oedd y digwyddiad balchder cyntaf i’w gynnal yn y Cymoedd.
‘Ynysig iawn yn ddiwylliannol’
“Dw i’n meddwl ei fod yn ofnadwy o bwysig i gael digwyddiadau fel hyn yn ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru,” meddai Natalie Bowen wrth golwg360.
“Mae gan Gaerdydd fariau hoyw, mae gan Gaerdydd lot o gynhwysiad.
“Dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir mewn rhannau mwy anghysbell o Gymru, lle mae’r gymuned yn dal i wynebu llwyth o heriau.
“Mae’n gallu bod yn ynysig iawn yn ddiwylliannol i ddod allan ac mae’n gallu bod yn eithriadol o anodd dod allan mewn ardaloedd anghysbell.
“Os ydych yn draws, anneuaidd neu’n ryngrywiol, er enghraifft, mae’n gallu bod yn llawer anoddach i fod yn ti dy hun.
“Mae yna lot o rethreg gwrthdraws hefyd, yn enwedig yn y cyfryngau, ac mae hyn wedi bod yn destun pryder i lawer o bobol ers blynyddoedd.
“Mae cael digwyddiad balchder yma yn Rhondda Cynon Taf sydd yno i gefnogi’r gymuned gyfan, nid yn unig ar gyfer y digwyddiad undydd bob blwyddyn, ond 365 diwrnod y flwyddyn, yn hynod o bwysig.
“Mae penwythnos yma am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
“Mae o’n ffordd bositif iawn i bobol allu ymwneud efo’u cymuned ac mae yna gymaint o bethau positif am fod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
“Rydan ni yma i arddangos yr holl bethau positif yma.”
‘Deg gwaith yn anoddach’ i fod yn ti dy hun yn y cyfnod clo
Yn ôl Natalie Bowen, roedd y cyfnod clo yn gyfnod anodd i lawer o’r gymuned LHDTC+ wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i aros gartref mewn cartrefi efallai nad oedd yn ddiogel iddyn nhw.
“Mae’r cyfnod clo wedi cael effaith negyddol iawn yn ein cymuned,” meddai.
“Mae ynysu cymdeithasol wedi golygu nad oedd pobol yn gallu cael mynediad at grwpiau cyfarfod cymdeithasol a rhwydweithiau cymorth cymdeithasol fel yr oedden nhw’n gallu cyn y cyfnod clo.
“Ond hefyd, er enghraifft, gall person ifanc fod wedi bod yn byw gyda theulu sy’n draddodiadol yn eithaf gwrth-LHDTC+.
“Os wyt ti wedi dy gloi mewn gyda’r bobol yma am fyny at ddwy flynedd, mae o’n ei wneud ddeg gwaith yn anoddach i ddod allan a bod yn ti dy hun.
“Rydan ni wedi dod o hyd i bobol ifanc sydd wedi eu gwneud yn ddigartref yn ystod Covid oherwydd sefyllfaoedd fel hyn ac rydan ni yma i’w helpu.”
Angen addysgu nid canslo
Mae Natalie Bowen yn teimlo bod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod Cymru’n genedl gynhwysol a chroesawgar i’r gymuned LHDTC+.
“Mae gennym ni lawer o addysgu i’w wneud,” meddai.
“Fel sefydliad, dydyn ni ddim yn coelio mewn canslo pobol.
“Rydan ni’n coelio mewn addysgu pobol, siarad efo pobol, deall pryderon pobol a chyrraedd consensws sy’n golygu bod ein cymuned ni’n gallu symud ymlaen a gall cymunedau eraill symud ymlaen efo ni.
“Byddai’n fuddiol iawn dysgu hanes LHDTC+ i bobol oherwydd wedyn gallan nhw weld eu bod wedi bod yn rhan fawr iawn o stori Cymru ers miloedd ar filoedd o flynyddoedd.”