Mae Nicola Sturgeon yn dweud ei bod hi’n awyddus i gwrdd â Phrif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig er mwyn trafod ei chynllun i gynnal refferendwm annibyniaeth y flwyddyn nesaf.

Dywed Prif Weinidog yr Alban y gallai fod yn fodlon cyfaddawdu ar rai o fanylion y cynllun.

Ond dywed na fyddai gan bwy bynnag sy’n cymryd lle Boris Johnson unrhyw gymeradwyaeth ddemocrataidd gan yr Alban.

Mae Boris Johnson wedi dweud dro ar ôl tro nad dyma’r amser i gynnal pleidlais arall ar annibyniaeth i’r Alban, ac wedi dadlau y dylid parchu canlyniad y refferendwm diwethaf yn 2014 – pan bleidleisiodd 55% o Albanwyr o blaid aros yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw’r un o’r ymgeiswyr sydd yn y ras i’w olynu wedi dangos unrhyw arwyddion eu bod yn debygol o fabwysiadu agwedd wahanol.

Wrth siarad wrth iddi lansio’r diweddaraf mewn cyfres o bapurau yn cyflwyno’r achos dros annibyniaeth, dywedodd Nicola Sturgeon y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “symud hyd yn oed ymhellach i’r dde” waeth pwy sy’n cael eu hethol yn Brif Weinidog ar Fedi 5.

Mae’n honni y gallai hyn arwain at “ras i’r gwaelod” ar faterion fel treth, toriadau i wasanaethau cyhoeddus, cefnogaeth i deuluoedd a Brexit.

“Dyw’r Ceidwadwyr erioed wedi ennill mwyafrif yn yr Alban yn fy oes i. Ac eto, ers tua dwy ran o dair o’m hoes mae’r Alban wedi cael Prif Weinidogion a pholisïau’r Torïaid,” meddai.

“Nid democratiaeth yw hynny.”

Dod ynghyd

Mae’n dadlau mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o roi terfyn ar y diffyg democrataidd “mwy amlwg nag erioed” yn yr Alban.

Er hynny, hoffai petai’r ddwy lywodraeth yn dod at ei gilydd i gytuno ar broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth, fel digwyddodd cyn 2014, ac mae’n dweud y gallai fod yn barod i gyfaddawdu ar rai o’r manylion.

“Os yw’r prif weinidog newydd yn agored i hynny, byddaf yn agored i eistedd, ac mewn ysbryd o gyfaddawd, ceisio dod i gytundeb,” meddai.

“Dydw i ddim yn mynd i ganiatáu i ddemocratiaeth yr Alban fod yn garcharor un o Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig.”