Fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddim yn darparu safleoedd penodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, er bod cryn alw am gartrefi symudol sydd heb ei ateb yn y sir.
Yn ôl Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, a gafodd ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 13), roedd galw am 11 cartref symudol newydd oedd heb ei ateb yn y bwrdeistref sirol.
Ond fe wnaeth aelodau’r pwyllgor craffu gwestiynu a ddylid darparu safleoedd penodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, wrth iddyn nhw gyfarfod ar Fehefin 21.
Ond doedd dim sôn am hyn yng nghyfarfod y Cabinet.
Roedd yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet yn nodi, yn y dyfodol, y gallai dull rhanbarthol fynd i’r afael â’r diffyg darpariaeth.
Asesiad
Roedd yr Asesiad yn cynnwys cyfweliadau â naw o bobol oedd yn dweud eu bod nhw’n Sipsiwn Roma.
Dangosodd y canlyniadau fod pawb oedd yn rhan o’r ymgynghoriad yn dweud eu bod nhw’n hapus â’u lleoliadau presennol, ac nad oedden nhw eisiau ymuno â safle’r Cyngor na’r rhestr aros am dŷ.
Dim ond 0.02% o boblogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n dweud eu bod nhw’n Sipsiwn neu’n Deithwyr Gwyddelig, yn ôl Cyfrifiad 2011.
Ar hyn o bryd, mae tri safle heb awdurdod i deithwyr yn y bwrdeistref sirol, un yn Ynysddu a’r llall yn Rhymni, a dydy’r trydydd lleoliad ddim yn hysbys.
Cafodd un cais cynllunio ei wrthod, ond mae apêl wedi’i chyflwyno.
Mae disgwyl i gais arall gael ei gyflwyno i’r pwyllgor cynllunio, tra bod trydydd cais yn aros i gael ei ddilysu.
Pe bai’r rhain yn cael eu gwrthod, gall fod angen i’r Cyngor ddod o hyd i safleoedd eraill, a bydd y safleoedd hyn yn destun adolygiad parhaus gan weithgor llety Sipsiwn a Theithwyr, sy’n cyfarfod bob dwy flynedd.
“Dros y deng mlynedd diwethaf, ar gyfartaledd, dim ond un neu ddau achos o wersylla heb awdurdod bob blwyddyn a fu ar dir sydd dan berchnogaeth gyhoeddus,” meddai adroddiad i’r Cabinet.
“Mae gwersylla sy’n digwydd yn ystod y cyfnod hwn fel arfer wedi para llai nag wythnos ac yn ymwneud â dwy neu dair carafan.
“Byddai’r gwersylla hyn wedi’i reoli gan dîm iechyd yr amgylchedd yn unol â phrotocol y Cyngor ar gyfer rheoli’r fath wersylloedd.”
Craffu
Mewn cyfarfod pwyllgor craffu ar dai ac adfywio, gofynnodd y Cynghorydd annibynnol Bob Owen a ddylai’r awdurdod lleol ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
“Gallem gasglu sbwriel a chael safleoedd glannach na phe baen ni’n eu gadael nhw i’w pethau eu hunain – a oes yna atyniad i ddarparu safleoedd?” gofynnodd.
“Mae hi bob amser braidd yn ddadleuol pan ydyn ni’n siarad am Deithwyr, ond mae’n amlwg yn destun pryder pan fo’n codi mewn wardiau amrywiol, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw jyst yn symud yn eu blaenau.”
Yn ôl Nick Taylor-Williams, pennaeth tai yn y Cyngor, dydy casgliadau’r arolwg ddim yn dangos bod angen i’r Cyngor ddarparu safleoedd.
“Pe baen ni’n [darparu safleoedd]. byddai gennym rywfaint yn rhagor o reolaeth,” meddai.
“Dydy e ddim yn rywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd, o ystyried casgliadau’r adroddiad.”
Fe wnaeth y Cynghorydd Colin Mann o Blaid Cymru adleisio sylwadau Bob Owen, gan gwestiynu a fyddai’n “fwy synhwyrol” darparu safleoedd i osgoi’r angen i bobol fyw ar safleoedd heb awdurdod.
“Mae mwy o alw, fwy na thebyg, na’r hyn rydym yn ei glywed,” meddai.
“Mae hwn yn fater dadleuol, ac fe all fod yn fater dadleuol, a dw i ddim wedi fy argyhoeddi ein bod ni’n mynd i’r afael ag e’n iawn drwy beidio â gwneud dim byd.”