Mae’r penderfyniad i greu safle i Sipsiwn a Theithwyr mewn pentref yn Sir y Fflint wedi cael ei ohirio.

Fe wnaeth y cynigion ar gyfer un garafan sefydlog ac un symudol ar dir yn Ewlo ddenu bron i 100 o wrthwynebiadau gan drigolion pryderus.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan James Doran i gartrefu ei deulu fis Mehefin 2020 yn dilyn honiadau bod diffyg safleoedd yn yr ardal i aelodau’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Daeth argymhelliad y dylai’r cynllun fynd yn ei flaen gan uwch swyddog yng Nghyngor Sir y Fflint cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio brynhawn heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 6).

Gwrthwynebiad hwyr

Ond cafodd ei dynnu oddi ar yr agenda ar yr unfed awr ar ddeg ar ôl i nifer o sylwadau hwyr gael eu cyflwyno i’r awdurdod lleol gan wrthwynebwyr i’r cynlluniau.

“Rydych chi wedi cael y cyfle i agor y sylwadau hwyr, fe welwch chi eu bod nhw’n eithaf helaeth,” meddai Andrew Farrow, y prif swyddog cynllunio, wrth egluro’r penderfyniad i ohirio.

“Fe wnaethon ni ei dderbyn yn hwyr ddoe gan wrthwynebwyr i’r cais hwn.

“Mae’n berthnasol wrth ystyried y cais ein bod ni’n treulio peth amser yn myfyrio yn nhermau’r hyn sydd wedi’i gyflwyno yn y fan honno.

“Felly rwy’n awgrymu mai’r cam gweithredu mwyaf diogel yw gohirio’r penderfyniad ynghylch y cais hwn tan ddyddiad maes o law hyd nes ein bod ni wedi mynd i’r afael â hynny o fewn adroddiad y pwyllgor yn hytrach nag ymdrin ag o trwy ddadl yn y pwyllgor heddiw.”

Daeth cyfanswm o 95 o wrthwynebiadau’n flaenorol yn erbyn y cynllun, ar ôl i drigolion fynegi pryderon am yr effaith ar ddiogelwch ffyrdd a chefn gwlad cyfagos.

Cafodd oddeutu 103 o lythyron eu derbyn i gefnogi’r cynigion, a gafodd eu cefnogi i’w cymeradwyo gan Mr Farrow.

‘Dim angen safle arall’

Roedd Helen Brown, cynghorydd dros ward Hawarden Aston, ymhlith y rhai siaradodd yn erbyn y cynlluniau cyn y cyfarfod.

Yn ei thystiolaeth i’r Cyngor, dywedodd y cynghorydd annibynnol nad oes angen safle arall i Sipsiwn a Theithwyr yn yr ardal.

“Does dim angen heb ei ddiwallu yn Sir y Fflint,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni 14 o safleoedd yn Sir y Fflint, ac mae dau gais cynllunio gwahanol ar y gweill i ehangu safleoedd yn yr Hob ac yn Ewlo.

“Rydym yn credu bod yna gais cynllunio llawn ar gyfer ardal Treffynnon.

“Hefyd, bydd y Cyngor yn ymestyn ei safle ei hun yn Queensferry gan hyd at 30 darn o dir.”

Ond dywedodd Mr Farrow mewn adroddiad y dylai’r awdurdod ystyried lles plant sy’n byw ar y safle.

Fe ddisgrifiodd y safle fel “lleoliad cynaliadwy” ar gyfer datblygiad a fyddai’n diwallu angen penodol ar gyfer llety.

Bydd y cynigion bellach yn cael eu hystyried ar ddyddiad arall maes o law ar ôl i’r aelodau gytuno i ohirio’r cais.

Romani

Buddsoddiad Llafur yng nghymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru wedi bod yn fach iawn yn y gorffennol

Isaac Blake

Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani, sy’n dadlau bod y gymuned wedi’i thangyllido o’i chymharu â chymunedau eraill Cymru