Dydy Virginia Crosbie ddim yn haeddu unrhyw glod am ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr ynys sy’n mynnu bod yr “amser i wneud safiad moesol wedi hen fynd”.
Wrth ymddiswyddo, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn fod “nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb – nifer ohonyn nhw’n ganolog i Downing Street a’ch arweinyddiaeth – yn syml iawn yn gwneud eich swydd yn anghynaladwy”.
Dywedodd y byddai Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn gwneud “niwed diwrthdro” i’r Llywodraeth pe bai’n parhau yn ei swydd, ac yn “rhoi’r allweddi i Blaid Lafur nad yw’n addas i lywodraethu”.
Ychwanegodd nad oes modd iddi “barhau i amddiffyn eich gweithredoedd i’m hetholwyr yn Ynys Môn sydd, yn gwbl gywir, yn grac iawn”, a’i bod hi bellach yn teimlo bod “y sefyllfa’n gwaethygu”.
Serch hynny, mae hi wedi diolch i Boris Johnson “am y gefnogaeth rydych chi wedi’i dangos i bŵer niwclear yma yn Ynys Môn a’r hyn mae hynny’n ei olygu i’m hetholwyr”, ond yn dweud “nad oes modd ymddiried” yn Boris Johnson “i ddweud y gwir”.
‘Y diwedd wedi dod i Boris Johnson’
Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo Virginia Crosbie o geisio ymbellhau ei hun oddi wrth Boris Johnson ar ôl ei gefnogi drwy holl sgandalau’r misoedd diwethaf.
“Mae’n amlwg bod y diwedd wedi dod i Boris Johnson,” meddai.
“Mae’n ddealladwy bod mwy a mwy o aelodau seneddol Ceidwadol yn ymddiswyddo i geisio ymbellhau oddi wrth ei gelwyddau a’i dwyllo, ond mae pleidleiswyr ym mhob man yn gwybod fod yr aelodau seneddol hynny wedi bod yn gyfrifol am ganiatáu i’w arweinyddiaeth warthus barhau.
“Mae’r amser i wneud safiad moesol wedi hen fynd.”
‘Haeddu gwell’
Mae Plaid Lafur Ynys Môn hefyd yn gwrthod rhoi unrhyw gefnogaeth i Virginia Crosbie am ymddiswyddo hefyd, gan ddweud bod trigolion yr ynys yn “haeddu gwell”.
Dywed Jessica Madge, ar ran Llafur, fod pobol leol wedi “cyfleu eu neges yn glir” i Aelod Seneddol yr ynys.
“Mae Virginia Crosbie wedi bod yn un o gefnogwyr mwyaf ffyddlon a brwdfrydig Boris Johnson,” meddai.
“Mae hi wedi dangos ei theyrngarwch dro ar ôl tro er gwaethaf cyfres o sgandalau.
“Mae’n amlwg o’i llythyr ymddiswyddo ei bod wedi derbyn llwyth o lythyrau blin gan etholwyr ar y pynciau hyn, ynghyd â’r sgandal ddiweddaraf.
“Y prif weinidog sydd wrth wraidd yr holl sgandalau hyn.
“Mae hi’n amlwg wedi sylweddoli bod ei dyfodol fel Aelod Senedd dan fygythiad erbyn hyn .
“Rydym yn haeddu gwell Prif Weinidog, gwell llywodraeth ac Aelod Seneddol y mae ei phrif deyrngarwch i’w hetholaeth, nid i arweinydd ei phlaid.”