Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn wedi ymddiswyddo o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed wedi bygwth gadael ei swydd oni bai bod Boris Johnson yn ymddiswyddo erbyn yfory (dydd Iau, Gorffennaf 7).
Erbyn hyn, mae dros 30 o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson – yn weinidogion cabinet, gweinidogion, ysgrifenyddion seneddol preifat, cenhadon masnach, a dirprwy gadeirydd y blaid.
Mae’r ymddiswyddiadau wedi cael eu sbarduno gan adroddiadau bod y Dirprwy Brif Chwip, Chris Pincher, wedi aflonyddu ar ddau ddyn yn rhywiol a’r ffaith fod Boris Johnson yn ymwybodol o honiadau yn ei erbyn mor bell yn ôl â 2019.
Wrth ymddiswyddo o’i rôl yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i’r Canghellor, dywedodd Craig Williams, yr Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn, ei bod hi’n amhosib anghofio am “ddigwyddiadau’r gorffennol”, adeiladu ffydd y cyhoedd, a chyflwyno polisïau da.
Cafodd Craig Williams ei ethol i San Steffan dros Ogledd Caerdydd yn 2015 i ddechrau, a bu’n Aelod dros yr etholaeth hyd nes 2017, pan gollodd ei sedd i’r Blaid Lafur.
Yna, yn 2019 cafodd ei ethol dros Sir Drefaldwyn.
‘Edifeirwch mawr’
“Dw i’n ysgrifennu atoch gydag edifeirwch mawr er mwyn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ganghellor y Trysorlys,” meddai Craig Williams mewn llythyr at Boris Johnson.
“Dw i wastad wedi meddwl ei bod hi’n bwysig gweithio fel tîm a chyflwyno atebion i’r blaenoriaethau sydd bwysicaf i fy etholwyr yn Nhrefaldwyn.
“Mae record y Llywodraeth hon, gyda’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu o ran Covid, pwysau costau byw, a’r rhyfel yn Ewrop, yn rhywbeth dw i’n eithriadol o falch o fod wedi bod yn rhan ohono a byddaf yn parhau i’w gefnogi.
“Wedi’r bleidlais diffyg hyder yn ddiweddar, fe wnes i roi fy nghefnogaeth i chi, gan roi un cyfle arall i gael fy mhrofi yn anghywir.
“Roeddwn i’n credu ei bod hi’n iawn anghofio am ddigwyddiadau’r gorffennol a chanolbwyntio ar ailadeiladu ffydd y cyhoedd a chanolbwyntio ar gyflwyno polisïau da.
“Mae hi wedi dod yn amlwg dros y dyddiau diwethaf bod hynny’n dod yn amhosib.
“Felly, gydag edifarwch mawr, dw i’n ymddiswyddo o’ch Llywodraeth.”
‘Drafftio’r llythyr sawl gwaith’
Yn y cyfamser, mae Fay Jones, yr Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, yn dweud na fydd ganddi ddewis ond ymddiswyddo pe bai Boris Johnson yn dal i fod yn ei swydd erbyn fory.
“Gydag edifeirwch mawr, dw i’n eich annog i berswadio’r Prif Weinidog i fynd,” meddai mewn llythyr at Mark Spencer, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.
“Dw i wedi drafftio’r llythyr hwn sawl gwaith; ar ôl y bleidlais i amddiffyn Owen Paterson a phan ddaeth graddfa lawn ‘Partygate’ i’r amlwg.
“Er gwaethaf fy nicter gyda’r ffordd y aeth y Prif Weinidog fynd i’r afael â’r digwyddiadau hynny, ym mis Ionawr, fe wnes ei gredu ei addewid i newid diwylliant Rhif 10, ac roeddwn i’n credu’n llawn y gallai. Mae hi’n amlwg i fi nawr bod fy fydd wedi cael ei gamgyfrifo.
“Er nad yw hi’n bosib gweld bai ar ei gefnogaeth tuag at Arlywydd Zelensky a phobol Wcráin, a’i fod yn haeddu clod enfawr am gyflwyno Brexit a chynnal y rhaglen frechu, mae’r dyddiau diwethaf wedi cadarnhau i mi fod yna erydiad mawr mewn ffydd a pharch yng ngwraidd y Llywodraeth.
“Mae’n fy ngwneud i’n drist iawn bod y Blaid Geidwadol wedi’i niweidio i’r fath raddau, dw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog yn gallu mendio’r clwyfau hynny bellach.
“Mae gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i chi wedi bod yn anrhydedd. Rydych chi wedi bod yn gefnogol ac yn garedig ac wedi fy annog. Dw i’n edrych ymlaen at roi cymorth i chi gyda Chwestiynau Busnes fory, am y tro olaf.
“Os yw’r Prif Weinidog yn methu gadael ei swydd erbyn yfory, byddaf yn ymddiswyddo’n ffurfiol o fy rôl fel PPS.
“Pan wnes i ddod yn Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, fe wnes i ennill y wobr gyntaf yn loteri bywyd.
“Maen nhw’n haeddu cael eu gwasanaethu gan lywodraeth sy’n hollalluog i ddarparu’r weledigaeth wnaethon ni ei addo iddyn nhw.”
‘Dim dewis’
Mae Stuart Andrew, y Gweinidog Tai sy’n enedigol o Ynys Môn, wedi ymddiswyddo hefyd, gan ddweud nad oes ganddo ddewis arall.
“Mae ffyddlondeb ac undod yn nodweddion dw i wedi ceisio’u darparu ar gyfer ein plaid wych,” meddai’r Aelod Seneddol dros Pudsey, Horsforth ac Aireborough.
“Fodd bynnag, mae gen i ofn fy mod i wedi gadael i’r rhain ddallu fy synnwyr yn ddiweddar.
“Mae amser yn dod pan mae’n rhaid i chi edrych ar eich hun, a nawr yw’r amser. Felly, o ystyried y digwyddiadau diweddaraf does gen i ddim dewis ond ymddiswyddo.”
‘Dangos rheolaeth’
Fe wnaeth Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, ymddiswyddo fel PPS ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 5), tra bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod rhaid i Boris Johnson ddangos bod ganddo reolaeth dros y blaid.
“Dw i wedi dweud erioed ei bod hi’n hanfodol bod y Prif Weinidog yn cynnal hyder ein gwlad, ein plaid a’n senedd,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae hi’n siomedig fod y llywodraeth wedi’i chael hi’n anodd gweithredu ar ymrwymiadau pwysig yn eu hagenda a’u maniffesto a gafodd gefnogaeth gref yn 2019, yn ddiweddar.
“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog brofi ei fod yn gallu darparu ar ei fandad nawr.”