Cafodd Boris Johnson ei wawdio gan Aelodau Seneddol wrth iddo gyrraedd siambr Tŷ’r Cyffredin ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog amser cinio heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 6).

Mae’n ddigon posib mai dyma’r tro olaf y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn y sesiwn gwestiynu wythnosol wrth i’r pwysau arno i ymddiswyddo gynyddu.

Roedd yna fylchau i’w gweld ar feinciau’r Ceidwadwyr yn sgil cyfres o ymddiswyddiadau – gan gynnwys y Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid.

Cafodd yr ymddiswyddiadau eu sbarduno gan adroddiadau bod y Dirprwy Brif Chwip, Chris Pincher, wedi aflonyddu ar ddau ddyn yn rhywiol a’r ffaith fod Boris Johnson yn ymwybodol o honiadau yn ei erbyn mor bell yn ôl â 2019.

Roedd y Canghellor newydd, Nadhim Zahawi, yr Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries, Ysgrifennydd yr Alban Alister Jack ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ymhlith cynghreiriaid Boris Johnson ar y fainc flaen.

Chwarddodd Aelodau Seneddol pan ddechreuodd Boris Johnson y sesiwn drwy ddweud: “Y bore yma cefais gyfarfodydd gyda chyd-Weinidogion ac eraill”.

“Yn ogystal â’m dyletswyddau yn y Tŷ hwn, rwy’n disgwyl y bydd gennyf gyfarfodydd pellach o’r fath yn ddiweddarach heddiw,” meddai.

‘Sefyllfa ddifrifol’

Dechreuodd Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, y sesiwn drwy ddarllen geiriau dyn a ddywedodd ei fod wedi “rhewi” wrth gael ei aflonyddu’n rhywiol gan Chris Pincher.

“Rwy’n derbyn nad yw hynny’n hawdd i’w glywed,” meddai.

“Ond mae’n atgoffa pawb sy’n amddiffyn y prif weinidog hwn pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa.

“Roedd yn gwybod fod y gweinidog a gafodd ei gyhuddo wedi cyflawni ymddygiad fel hyn o’r blaen, ond cafodd ei ddyrchafu i swydd lle’r oedd ganddo rym sylweddol beth bynnag. Pam?”

Dywedodd Boris Johnson ei fod yn edifar am y dyrchafiad, gan ychwanegu, “Cyn gynted ag y cefais wybod am yr honiadau y mae newydd eu darllen, y gŵyn a wnaed, collodd ei statws fel Aelod Seneddol Ceidwadol”.

‘Cŵn bach y prif weinidog’

Pwysleisiodd Keir Starmer rôl Aelodau Seneddol Ceidwadol wrth gefnogi’r prif weinidog er gwaethaf y gyfres o sgandalau y mae wedi’u hwynebu.

“Dim ond am ei fod wedi cael ei gefnogi am fisoedd gan blaid lwgr sy’n amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn y mae o mewn grym,” meddai.

“Byddai unrhyw un ag unrhyw synnwyr cyffredin wedi hen adael y fainc flaen.

“Yng nghanol argyfwng, onid yw’r wlad yn haeddu gwell na chŵn bach y prif weinidog?”

Aeth yn ei flaen i annog aelodau’r Llywodraeth i “ddangos ychydig o hunan-barch”.

“Dyw’r rhai sydd ar ôl ddim ond yna oherwydd fod neb arall yn fodlon cywilyddio’u hunain ddim mwyach,” meddai.

“Beth am i chi ddangos ychydig o hunan-barch?

“Ers wythnosau mae o wedi eich gorfodi i amddiffyn ei benderfyniad i ddyrchafu aflonyddwr rhywiol.

“Bob dydd mae’r llinellau yr ydych chi wedi gorfod eu hadrodd wedi bod yn gelwydd.”

‘Am sioe bathetig’

Wrth ymateb i ymosodiadau Keir Starmer, dywedodd Boris Johnson y dylai yntau “glywed yr hyn mae ei aelodau ef yn ei ddweud amdano”.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod arweinydd yr wrthblaid wedi ceisio ethol Jeremy Corbyn i Rif 10, a’i gyhuddo o benderfyniadau polisi gwael.

“Pleidleisiodd 48 o weithiau i wrthdroi ewyllys pobol Prydain, i wrthdroi canlyniadau’r refferendwm,” meddai wedyn.

“Am sioe bathetig,” meddai Keir Starmer wrth ymateb.

“Gweithred olaf ei yrfa wleidyddol yw gweiddi nonsens fel yna.”

‘Mae hi ar ben ar y prif weinidog’

Roedd hi’n “wyrth fod y prif weinidog wedi llwyddo i’w gwneud hi i PMQs”, yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

“Mae hi’n hawdd anghofio mai dim ond deng niwrnod yn ôl roedd y Prif Weinidog yn siarad am drydydd tymor mewn grym,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond mae deng niwrnod mewn gwleidyddiaeth yn ymddangos fel oes.

“Gadewch i ni fod yn onest, mae hi ar ben ar y prif weinidog.

“Faint yn fwy o weinidogion sydd angen rhoi’r gorau iddi cyn iddo godi beiro i ysgrifennu ei lythyr ymddiswyddo ei hun?”

‘Digon yw digon’

Y nesaf i lambastio’r prif weinidog oedd Sajid Javid, ei gyn-Ysgrifennydd Iechyd.

Dywedodd ei fod yn “chwaraewr tîm” ond fod “troedio rhwng teyrngarwch ac uniondeb wedi dod yn amhosibl yn ystod y misoedd diwethaf”.

“Dyw hi ddim yn deg fod gweinidogion yn cael eu hanfon allan bob bore i amddiffyn llinellau nad ydyn nhw’n dal dŵr.

“Dyw hi ddim yn deg bod fy nghydweithwyr seneddol yn gorfod dioddef gwylltineb etholwyr yn eu mewnflychau ac ar stepen y drws mewn etholiadau diweddar.

“Ac nid yw’n deg ar aelodau na phleidleiswyr Ceidwadol sy’n gwbl iawn yn disgwyl safonau gwell gan y blaid maen nhw’n ei chefnogi.”

Ychwanegodd ei fod “wedi cael sicrwydd personol ar y lefel uchaf” gan dîm y prif weinidog nad oedd “unrhyw bartïon wedi bod yn Downing Street ac nad oedd unrhyw reolau wedi’u torri” pan ddaeth y straeon cyntaf i’r amlwg y llynedd.

“Felly fe roddais i fy ffydd ynddo,” meddai.

“Ac fe siaradais i gyda’r cyfryngau a dweud fy mod wedi cael y sicrwydd hwnnw gan lefel uchaf tîm y prif weinidog.

“Wedyn daeth mwy o straeon. Cawsom adroddiad Sue Gray, tîm newydd Stryd Downing. Fe wnes i barhau i roi fy fydd yn y prif weinidog.

“Yr wythnos hon eto, roedd gennym reswm i gwestiynu gwirionedd ac uniondeb yr hyn a ddywedwyd wrthym.

“Ac yn y bôn mae’n rhaid i ni ddod i’r casgliad mai digon yw ddigon.

“Rwy’n credu bod y pwynt hwnnw wedi cyrraedd.”