Mae cwmni o Abertawe newydd gael eu cymeradwyo fel bragwyr di-alcohol carbon niwtral cyntaf y byd.

Ers sefydlu Drop Bear Beer Co. yn 2019, mae’r perchnogion wedi cymryd mesurau i gwtogi eu hôl troed carbon.

Mae Joelle Drummond a Sarah McNena wedi llwyddo i gael eu henwi’n fragwyr di-alcohol carbon niwtral gan eu bod nhw’n gwrthbwyso’u hallyriadau carbon deuocsid drwy gefnogi prosiectau rhyngwladol gwyrdd sydd wedi’u cymeradwyo gan ClimatePartner.

Un o’r prosiectau sy’n derbyn cefnogaeth ganddyn nhw yw cynllun ynni gwynt glân yng ngogledd ddwyrain Brasil sy’n cynnal 14 pwerdy gwynt, gan gynnig buddiannau i gymunedau lleol yn y wlad.

“Mae Drop Bear yn cymryd ei gyfrifoldeb dros yr amgylchedd o ddifrif a dod yn garbon niwtral yw’r garreg filltir ddiweddaraf, ac mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers blynyddoedd,” meddai Joelle Drummond.

“Mae cael achrediad yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid ein bod ni’n gwneud mwy na siarad, rydyn ni’n gweithredu.

“Nawr yw’r amser am arloesedd gwirioneddol wrth i ni weithio i leihau ein hôl troed carbon wrth gynhyrchu a chwtogi ein dibyniaeth ar wrthbwyso carbon.”

‘Arwain y ffordd’

Bydd y cwmni’n parhau i gael ei fonitro gan ClimatePartner, ac maen nhw’n gobeithio agor bragdy ar fferm ger y Fenni yn fuan.

“Mae ein bragdy arfaethedig yn y Fenni yn allweddol ar gyfer y rhan gyffrous nesaf yn ein taith at gynaliadwyedd,” meddai Joelle Drummond.

“Mae natur y safle’n golygu y byddai’n bosib i ni ddefnyddio technolegau arloesol i gwtogi defnydd ynni, cynyddu effeithlonrwydd, cwtogi gwastraff, lleihau milltiroedd bwyd, cael ynni gan baneli solar ar y safle, ac ati.

“Rydyn ni wedi cwblhau ein dadansoddiad, ac rydyn ni’n gwybod beth yw’r newidiadau mwyaf effeithiol y gellir eu gwneud, ac allwn ddim aros i ddechrau a pharhau i arwain y ffordd ar gyfer cynhyrchu diodydd ‘gwyrdd’ yng Nghymru.”

Byw ar blanhigion a bragu cwrw di-alcohol

Cadi Dafydd

Mewn fflat yn y Mwmbwls, a hynny gyda chymorth llyfrau llyfrgell a’r We, y dechreuodd Joelle Drummond fragu cwrw di-alcohol