Mae Boris Johnson yn wynebu’r bygythiad mwyaf i’w swydd ers iddo ddod yn brif weinidog – ac mae yna sawl un o’r rheiny wedi bod – yn dilyn y sgandal ddiweddaraf i achosi anhrefn llwyr yn ei lywodraeth.
Daw hyn ar ôl i’r cyn-Ddirprwy Brif Chwip Chris Pincher ymddiswyddo yn dilyn adroddiadau ei fod wedi aflonyddu ar ddau ddyn yn rhywiol.
Fodd bynnag, daeth i’r amlwg fod Boris Johnson yn ymwybodol o honiadau yn ei erbyn mor bell yn ôl â 2019.
Dechreuodd pethau fynd o’i le i’r prif weinidog neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 5).
Fe ymddiswyddodd wyth o aelodau Ceidwadol o’i lywodraeth, gan gynnwys y Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd iechyd Sajid Javid.
Ac roedd llawer iawn mwy o ymddiswyddiadau i ddod.
Robin Walker a Will Quince, y ddau weinidog addysg, oedd y cyntaf i ymddiswyddo fore heddiw, ac yna’r cyn-ysgrifennydd economaidd i’r Trysorlys, John Glen.
Yn dilyn hynny, fe wnaeth Victoria Atkins adael ei rôl weinidogol yn yr adran gyfiawnder, gyda Felicity Buchan yn ymddiswyddo fel ysgrifennydd preifat seneddol yn yr adran fusnes ar yr un pryd.
Dilynodd Laura Trott, wrth iddi hi ymddiswyddo fel ysgrifennydd preifat seneddol yr Adran Drafnidiaeth.
Dywedodd Wil Quince ei fod yn teimlo nad oedd ganddo “ddewis” ond ymddiswyddo, tra bod Robin Walker wedi dweud wrth y Prif Weinidog fod ei lywodraeth wedi cael ei “gysgodi gan gamgymeriadau a chwestiynau am onestrwydd”.
Mae’n debyg mai’r llythyr ymddiswyddo mwyaf di-flewyn-ar-dafod gafodd y prif weinidog oedd hwnnw gan Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie.
Dywedodd fod “nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb – nifer ohonyn nhw’n ganolog i Downing Street a’ch arweinyddiaeth – yn syml iawn yn gwneud eich swydd yn anghynaladwy”.
Aeth yn ei blaen i ddweud y byddai Boris Johnson yn gwneud “niwed diwrthdro” i’r Llywodraeth pe bai’n parhau’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac yn “rhoi’r allweddi i Blaid Lafur nad yw’n addas i lywodraethu”.
Erbyn hyn mae yn 31 o aelodau o’r Llywodraeth wedi ymddiswyddo.
Mae hyn oll wedi gadael y prif weinidog yn ymladd dros ei yrfa wleidyddol, ond mae hanes yn awgrymu bod ei gyfnod wrth y llyw yn dod i ben.
‘Hanfodol i’r Prif Weinidog ddal hyder ein gwlad’
Un dyn sydd wedi bod yn gefnogol i Boris Johnson drwy gydol y misoedd cythryblus diwethaf yw Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.
Ac mae ei ymateb i’r argyfwng diweddaraf yn parhau i fod yn ddiplomyddol.
“Rwyf bob amser wedi dweud ei bod yn hanfodol i’r Prif Weinidog ddal hyder ein gwlad, ein plaid a’n senedd,” meddai.
“Mae’n siomedig bod y llywodraeth wedi ei chael hi’n anodd cyflawni ei hymrwymiadau maniffesto yn ystod y misoedd diwethaf, a gafodd gymeradwyaeth gref yn 2019.
“Rhaid i’r Prif Weinidog brofi nawr y gall gyflawni ei fandad.”
‘Mae’r cyhoedd yn haeddu dechrau newydd’
Fodd bynnag, dyw aelodau’r pleidiau eraill ddim wedi dal yn ôl.
Dywedodd Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, mai’r “cwestiwn y dylai pawb fod yn ei ofyn i Rishi Sunak a Sajid Javid yw pam eu bod wedi cefnogi Boris Johnson am gyhyd”.
“Roedden nhw’n gwybod ei fod yn anonest,” meddai.
“Roedden nhw’n gwybod ei fod yn dweud celwydd ac yn gwawdio aberth y cyhoedd yn ystod y pandemig.
“Maen nhw hefyd ar fai am y sgandal ac anallu sy’n nodweddiadol o’r llywodraeth warthus hon.
“Mae Boris Johnson wedi codi cywilydd ar ei swyddfa a’r wlad, ac mae’r cyhoedd yn haeddu dechrau newydd a llywodraeth newydd.”
‘Dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo’
Yn y cyfamser, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn mynnu bod “dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo”.
“Mae dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd.
“Caiff ei lusgo allan o Rif 10 yn cicio a sgrechian wrth i Weinidogion y Cabinet, un wrth un, ddod o hyd i asgwrn cefn.
“Ond mae hi bellach yn anochel.
“Mae’r anhrefn sydd wedi amgylchynu San Steffan ers blynyddoedd yn llwyr anghynaladwy.
“Mae pobol wedi diflasu efo gwleidyddion sy’n trin eu bywydau fel gêm, sydd ag obsesiwn ynghylch personoliaethau a theatr yn hytrach nag egwyddorion a gweledigaeth.”
Galw ar Simon Hart i ymddiswyddo
Nid Boris Johnson yw’r unig Geidwadwr y mae Liz Saville Roberts am ei weld yn ymddiswyddo.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymru, galwodd ar Simon Hart i adael ei swydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Fodd bynnag, yn gynharach heddiw, roedd Simon Hart yn mynnu ei bod hi’n “fusnes fel yr arfer” yn Swyddfa Cymru.
“Dro ar ôl tro mae’r ysgrifennydd gwladol wedi cael ei rolio allan i amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn ar ran y prif weinidog,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae dau aelod o’r cabinet wedi ymddiswyddo, mae ei Ysgrifennydd Seneddol Preifat wedi ymddiswyddo.
“Nid ‘busnes fel yr arfer’ yw hyn, nage? Pryd fydd o’n ymddiswyddo?”
Wrth ymateb, dywedodd Simon Hart ei bod hi’n “sicr yn fusnes fel yr arfer yn Swyddfa Cymru”.
“Dyna pam dw i’n falch o ddweud ein bod yn bwrw ymlaen â chodi’r gwastad, y gronfa adnewyddu gymunedol yn ogystal â sicrhau buddsoddiad ar draws Cymru.
“Waeth beth mae hi’n ei ddweud, mae yna gymaint o dystiolaeth fod bod yn rhan o’r Undeb yn beth da i Gymru o ran creu swyddi hir dymor.
“A byddai’n dda gennyf i pe bai hi’n ymuno â ni yn y broses o wella bywydau pobol yng Nghymru yn hytrach na defnyddio cwestiynau gwleidyddol i wneud y gwrthwyneb.”
A fydd yna bleidlais hyder arall?
Os nad yw Boris Johnson yn ymddiswyddo, mae’n bosib y bydd yn gorfod wynebu pleidlais hyder arall.
Mae Pwyllgor 1922 o Dorïaid meinciau cefn yn debygol o gynnal eu hetholiadau ddydd Mercher nesaf.
Pe bai digon o Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n gwrthwynebu Boris Johnson yn cael eu hethol i’r pwyllgor, gallen nhw newid y rheolau ynghylch pryd y gellir cynnal pleidlais hyder yn y prif weinidog.
Yn yr achos yma, a phe bai digon o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn cefnogi pleidlais arall, gallai gael ei chynnal cyn i doriad yr haf ddechrau ar Orffennaf 21.
Goroesodd y prif weinidog bleidlais o’r fath ym mis Mehefin, ac mae’r rheolau presennol yn golygu nad oes modd cynnal un arall tan fis Mehefin 2023.
Fodd bynnag, pleidleisiodd 41% o blaid cael gwared arno ac mae’n llawer mwy tebygol y byddai’r trothwy o 50% yn cael ei basio pe bai pleidlais arall yn cael ei chyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.