Dr Aled Eirug fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd yn ymgymryd â’r rôl ddiwrnod cyntaf mis Medi eleni, gan olynu’r Cadeirydd dros dro presennol, Llinos Roberts, a gymerodd yr awenau yn dilyn marwolaeth sydyn cyn-Gadeirydd y Coleg, Gareth Pierce, y llynedd.

Mae Aled Eirug yn wyneb cyfarwydd ym maes addysg uwch, gwleidyddiaeth a darlledu, ac mae ganddo brofiad yn cadeirio sefydliadau yn y sector wirfoddol a’r sector gyhoeddus.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr, cyn cael ei ddyrchafu yn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru.

Treuliodd bum mlynedd yn Ymgynghorydd Arbenigol i Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ac yna cyfnod yn cynghori’r Gweinidog Addysg ar y pryd.

Yn y blynyddoedd diweddaraf, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe fel Uwch Ddarlithydd ac fel Ymgynghorydd i Is-ganghellor y Brifysgol tan 2017.

Mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Senedd Cymru, Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom, a Bwrdd Cynnwys Ofcom.

Bu’n Gadeirydd ar y Cyngor Ffoaduriaid yng Nghymru, yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru ac yn aelod o Fwrdd S4C hefyd.

Graddiodd mewn Hanes a Hanes Cymru o Brifysgol Cymru, cyn dilyn sgwrs Meistr yn y London School of Economics.

Yn ddiweddarach, cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar Hanes y Gwrthwynebiad Cydwybodol i’r Rhyfel Mawr, ac mae’n Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yno erbyn hyn.

‘Cyfnod cyffrous’

Dywed Aled Eirug ei fod yn “falch iawn” o gael ei benodi’n Gadeirydd y Bwrdd.

“Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth iddo adlewyrchu ar, a dathlu, llwyddiannau’r degawd cyntaf,” meddai.

“Mae cyfraniad y Coleg at greu mwy o siaradwyr Cymraeg hyderus a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws ein sectorau economaidd yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r cyfarwyddwyr, y staff a’r partneriaid er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r degawd cyntaf ac i gefnogi’r Coleg i symud ymlaen yn hyderus i’r degawd nesaf.”

‘Profiad eang’

Wrth groesawu Aled Eirug i’r bwrdd, dywed Cadeirydd Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant y Coleg, ei bod hi’n bleser ei benodi.

“Mae ganddo brofiad eang a helaeth o nifer o wahanol feysydd perthnasol ac mae’n arweinydd strategol a phrofiadol.

“Ar ran y Pwyllgor Penodiadau hoffwn ddymuno’n dda iddo dros y cyfnod nesaf ac edrychwn ymlaen at y cydweithio.”

‘Datblygu darpariaeth Gymraeg’

Mae Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi ychwanegu ei groeso yntau hefyd.

“Bydd y profiad helaeth sydd ganddo o’r meysydd addysg uwch, darlledu a gwleidyddiaeth yn gaffaeliad i’r Coleg wrth i ni weithredu ein cynlluniau,” meddai.

“Mae ymrwymiad Aled i hybu buddiannau dysgwyr, prentisiaid a myfyrwyr yn amlwg a bydd hyn yn allweddol wrth i ni barhau i ddatblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol a denu mwy o ddysgwyr i elwa o’r cyfleoedd hynny.

“Diolchwn i Llinos Roberts am ei gwaith fel Cadeirydd dros dro ac am gymryd yr awenau yn dilyn colli ein cyn-Gadeirydd, Gareth Pierce, mor sydyn y llynedd.

“Yn ystod blwyddyn heriol, roedd cyngor, cefnogaeth ac arweiniad Llinos yn allweddol, a hynny yn ystod cyfnod anodd iddi hi yn bersonol.”