Mae Liz Saville Roberts wedi cynnig medal i Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am fod “y sarjant recriwtio gorau y gallai annibynaieth ddymuno’i gael”.

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fynnu y bydd “trahauster San Steffan yn parhau i fod yn deyrn ar ddyfodol Cymru”.

Drwy wrthod ymddiswyddo, er bod nifer o’i Gabinet wedi mynd neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 5), mae hi’n cyhuddo Boris Johnson o “roi goroesiad gwleidyddol uwchlaw dyletswydd gyhoeddus”.

“A yw e eisiau medal am fod y sarjant recriwtio gorau y gallai annibyniaeth ddymuno’i gael?” gofynnodd wedyn.

Dyfodol yr Undeb

Wrth ymateb, mae Boris Johnson wedi pwysleisio nerth yr Undeb.

Dywedodd ei fod e wedi cael “sgwrs wych” gyda Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, prif weinidogion Cymru a’r Alban, a’i fod e’n gweld “clymau ein Hundeb yn cael eu cryfhau drwy’r amser”.

“Mae dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo”

“Caiff ei lusgo allan o Rif 10 yn cicio a sgrechian,” meddai Liz Saville Roberts wrth ymateb i lu o ymddiswyddiadau

Virginia Crosbie wedi ymddiswyddo ar ôl Rishi Sunak a Sajid Javid

Roedd hi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru