Mae Virginia Crosbie wedi ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.

Daw ei hymadawiad yn dilyn ymddiswyddiadau’r Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 5).

Nadhim Zahawi yw’r Canghellor newydd, ac mae Steve Barclay wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Iechyd.

Aelod Seneddol yw Ysgrifennydd Seneddol Preifat, sy’n cael ei ddynodi gan weinidog uwch yn y Llywodraeth neu gan weinidog cysgodol i weithredu fel cyswllt y gweinidog gydag Aelodau Seneddol.

Prif ddyletswydd Ysgrifennydd Seneddol Preifat yw helpu’r Llywodraeth i geisio barn y meinciau cefn yn San Steffan.

Wrth ymddiswyddo, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn fod “nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb – nifer ohonyn nhw’n ganolog i Downing Street a’ch arweinyddiaeth – yn syml iawn yn gwneud eich swydd yn anghynaladwy”.

Dywedodd y byddai Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn gwneud “niwed diwrthdro” i’r Llywodraeth pe bai’n parhau yn ei swydd, ac yn “rhoi’r allweddi i Blaid Lafur nad yw’n addas i lywodraethu”.

Ychwanegodd nad oes modd iddi “barhau i amddiffyn eich gweithredoedd i’m hetholwyr yn Ynys Môn sydd, yn gwbl gywir, yn grac iawn”, a’i bod hi bellach yn teimlo bod “y sefyllfa’n gwaethygu”.

Serch hynny, mae hi wedi diolch i Boris Johnson “am y gefnogaeth rydych chi wedi’i dangos i bŵer niwclear yma yn Ynys Môn a’r hyn mae hynny’n ei olygu i’m hetholwyr”, ond yn dweud “nad oes modd ymddiried” yn Boris Johnson “i ddweud y gwir”.

Dyma ddywedodd Rishi Sunak wrth ymddiswyddo:

A dyma oedd gan Sajid Javid i’w ddweud: