“Mae dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo,” yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, sydd wedi bod yn ymateb i lu o ymddiswyddiadau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn eu plith mae’r Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid, yn ogystal â Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn oedd hefyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.

Wrth ymddiswyddo, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn fod “nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb – nifer ohonyn nhw’n ganolog i Downing Street a’ch arweinyddiaeth – yn syml iawn yn gwneud eich swydd yn anghynaladwy”.

Dywedodd y byddai Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn gwneud “niwed diwrthdro” i’r Llywodraeth pe bai’n parhau yn ei swydd, ac yn “rhoi’r allweddi i Blaid Lafur nad yw’n addas i lywodraethu”.

Ychwanegodd nad oes modd iddi “barhau i amddiffyn eich gweithredoedd i’m hetholwyr yn Ynys Môn sydd, yn gwbl gywir, yn grac iawn”, a’i bod hi bellach yn teimlo bod “y sefyllfa’n gwaethygu”.

Serch hynny, mae hi wedi diolch i Boris Johnson “am y gefnogaeth rydych chi wedi’i dangos i bŵer niwclear yma yn Ynys Môn a’r hyn mae hynny’n ei olygu i’m hetholwyr”, ond yn dweud “nad oes modd ymddiried” yn Boris Johnson “i ddweud y gwir”.

‘Gweinidogion yn darganfod asgwrn cefn’

“Mae dyddiau Boris Johnson wedi’u rhifo,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

“Caiff ei lusgo allan o Rif 10 yn cicio a sgrechian wrth i Weinidogion y Cabinet, un wrth un, ddod o hyd i asgwrn cefn.

“Ond mae hi bellach yn anochel.

“Mae’r anhrefn sydd wedi amgylchynu San Steffan ers blynyddoedd yn llwyr anghynaliadwy.

“Mae pobol wedi diflasu efo gwleidyddion sy’n trin eu bywydau fel gêm, sydd ag obsesiwn ynghylch personoliaethau a theatr yn hytrach nag egwyddorion a gweledigaeth.

“Dydy Cymru erioed wedi rhoi mwyafrif i’r Torïaid yn ein gwlad.

“Ond hyd yn oed pe bai Johnson yn mynd, bydd yr un traheustra’n parhau i reoli a bod yn feistr.

“Yng Nghymru, rydyn ni’n cymryd camau i gryfhau a moderneiddio ein democratiaeth, yn dra gwahanol i syrcas San Steffan.

“Mae’n hen bryd gwneud yn well efo annibyniaeth.”

Virginia Crosbie wedi ymddiswyddo ar ôl Rishi Sunak a Sajid Javid

Roedd hi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru