Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig “ar ochr y rhai sydd ar eu hennill” yn y ddadl ar lety gwyliau ac ail gartrefi.

Daw hyn wrth i’r blaid gynnal dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 6).

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r blaid am gynnal dadl fydd yn ei gwneud hi’n “anos rheoleiddio llety gwyliau ac ail gartrefi ac yn haws i berchnogion ail dai osgoi talu treth ar ail dŷ”.

Ar drothwy’r ddadl, mae’r Gymdeithas wedi gosod posteri ar swyddfeydd y Ceidwadwyr yn Hwlffordd, Arberth, Llandudno ac Ynys Môn yn galw am Ddeddf Eiddo ac yn hysbysebu protest dros Ddeddf Eiddo ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Y ddadl

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, maen nhw am herio rheolau sy’n “bygwth dichonolrwydd busnesau twristiaeth ledled Cymru”.

Bydd Tom Giffard, y llefarydd twristiaeth, yn cyflwyno cynnig yn gwrthwynebu trothwy 182 diwrnod Llywodraeth Cymru ar gyfer llety gwyliau – rhywbeth maen nhw’n ei alw’n “niweidiol” ac sydd wedi’i wrthwynebu gan y Gynghrair Dwristiaeth, meddai’r blaid.

Pe na bai modd cyrraedd y trothwy, bydd perchnogion eiddo’n destun cynnydd o 300% yn y premiwm treth cyngor.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, gallai’r rheolau newydd orfodi 1,400 o berchnogion llety gwyliau i adael Cymru, a gallai hyn gael effaith ar y diwydiant twristiaeth, gydag un ym mhob saith swydd yng Nghymru’n dod o’r diwydiant hwnnw.

“Pan fo busnesau twristiaeth ledled Cymru’n dweud eu bod nhw am orfod cau o ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae’n amlwg ei bod hi’n bryd gweithredu,” meddai Tom Giffard.

“Roedd y busnesau hyn yn fwy na pharod i gyfaddawdu ar drothwy 105 diwrnod, ond cawson nhw eu hanwybyddu’n llwyr gan weinidogion Llafur.

“Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid sy’n sefyll i fyny dros ein sector twristiaeth, sy’n ddespret am gefnogaeth i’w helpu nhw i daro’n ôl o gyfyngiadau’r pandemig.”

Y rhai sydd am elwa ddim am “ildio heb frwydr”

“Mae cyflwyno dadl yn y Senedd heddiw yn dangos na fydd y rhai sydd yn elwa o’r drefn fel mae hi yn ildio heb frwydr,” meddai Osian Jones ar ran yr ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’.

“Rhaid i ni wneud safiad ar ran pawb sydd am gael hyd i gartrefi yn eu cymunedau.

“Byddwn ni’n parhau â’r frwydr ar Faes yr Eisteddfod trwy gynnal rali i bwyso ar y Llywodraeth am Ddeddf Eiddo gynhwysfawr.”

Yn gynharach eleni, cafodd rheolau newydd eu cyflwyno sy’n golygu bod rhaid i dŷ gwyliau fod ar gael i’w rentu am o leiaf 252 o ddiwrnodau bob blwyddyn er mwyn osgoi talu treth ail dŷ.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno dadl i ddirymu’r rheol honno.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:

  • sicrhau’r hawl i gartre’n lleol
  • cynllunio ar gyfer anghenion lleol
  • grymuso cymunedau
  • blaenoriaethu pobol leol
  • rheoli sector rhentu
  • sicrhau cartrefi cynaliadwy
  • buddsoddi mewn cymunedau