Mae camau er mwyn cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth a chryfhau’r economi wledig wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 6).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn “arwydd o newid mawr”, a bydd yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru wrth sicrhau amgylchedd ac economi mwy gwydn.

Fel rhan o’r cynllun, bydd cymorth ariannol yn cael ei ddarparu i gefnogi’r gwaith mae ffermwyr yn ei wneud i ymateb i heriau’r argyfwng hinsawdd ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Mae’r camau gweithredu yn y Cynllun yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr i’w helpu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd neu’r farchnad, a lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

Camau gweithredu

Bydd taliad sylfaenol yn cael ei wneud i ffermwyr am ymgymryd â chyfres o Gamau Gweithredu Cyffredinol, a bydd taliad ychwanegol ar gael i ffermwyr sy’n dewis cymryd camau opsiynol a chydweithredol eraill.

Mae’r camau gweithredu yn cynnwys:

  • rheoli a gwella cynefinoedd ar draws o leiaf 10% o’r fferm, neu greu nodweddion cynefin newydd lle nad oes cynefin ar y funud (Cyffredinol)
  • sicrhau bod mesurau bioddiogelwch angenrheidiol ar waith i leihau’r perygl o ledaenu clefydau (Cyffredinol)
  • cwblhau hunanasesiad meincnodi blynyddol i wella perfformiad busnes (Cyffredinol)
  • adfer mawn mawndiroedd sydd wedi’u difrodi drwy flocio ffosydd neu ailsefydlu llystyfiant (Opsiynol)
  • tyfu cnydau i leihau faint o borthiant mae’r fferm yn ei brynu (Opsiynol)
  • sefydlu mentrau garddwriaethol o fewn y busnes (Opsiynol)
  • cymorth i ffermwyr gydweithio ar draws dalgylchoedd i wella ansawdd dŵr (Cydweithredol)

Er mwyn helpu ffermwyr i gymryd y camau gweithredu, caiff cymorth ei gynnig drwy wasanaeth cynghori, yn ogystal â hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng ffermwyr.

Fydd dim penderfyniad ar sut y bydd y Cynllun terfynol yn edrych yn cael ei wneud hyd nes y bydd ymgynghoriad pellach ar y cynigion manwl a’r dadansoddiad economaidd wedi’i gyflwyno yn 2023.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, bydd cyfnod pontio’n cael ei gyflwyno fel bod taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gydol a thu hwnt i dymor y Senedd.

‘Bygwth cynaliadwyedd amaeth’

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, wedi diolch i’r diwydiant am gydweithio â Llywodraeth Cymru i gynllunio’r Cynllun ac mae hi’n annog ffermwyr i barhau i ymgysylltu.

“Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i gynllunio i gefnogi’r hyn y mae ein ffermwyr yn ei wneud orau, sef ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd mewn cytgord â’r amgylchedd,” meddai.

“Rwyf am weld y Cynllun hwn yn gwella ein bioamrywiaeth yn sylweddol ac yn cryfhau sector ffermio Cymru.

“Byddwn yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd sector ffermio Cymru i ddarparu Sero Net ac i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

“Mae’r Cynllun wedi’i gynllunio i gefnogi ffermwyr gyda’r rôl bwysig hon ac ar yr un pryd yn eu helpu i barhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau cynhyrchu uchel.

“Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn bygwth cynaliadwyedd amaethyddiaeth ac yn peri’r risg fwyaf difrifol i ddiogelwch bwyd yn fyd-eang ac yn lleol.

“Rhaid inni ymateb i hyn os ydym am sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn am genedlaethau i ddod ac un o’m bwriadau ar gyfer cyhoeddi amlinelliad o’r Cynllun yn awr yw helpu’r diwydiant i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Mae cynhyrchu bwyd a chamau gweithredu cynaliadwy i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn agendâu ategol, nid ydynt yn cystadlu â’i gilydd.

“Mae ffermio’n hanfodol i Gymru ac mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein heconomi a’n cymunedau gwledig.

“Credaf yn gryf fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnig cyfle gwirioneddol ar gyfer newid cadarnhaol, a chyda’r cymorth y bydd yn ei ddarparu gallwn helpu’r sector i ffynnu.

“Byddwn yn ymgysylltu â’r sector yn ystod y cam nesaf o gyd-ddylunio cyn ymgynghori ar y cynigion terfynol y flwyddyn nesaf.

“Rwyf wedi dweud erioed fy mod am weithio gyda’n ffermwyr i sicrhau bod y Cynllun hwn yn gweithio iddynt hwy a’n cenedl.”

‘Rhaid gwneud mwy’

Fodd bynnag, mae llefarydd materion gwledig Plaid Cymru yn dweud bod rhaid gwneud mwy i gefnogi ffermwyr.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrech i gydnabod “rôl hanfodol ffermwyr fel cynhyrchwyr bwyd”, mae modd gwneud mwy i’w cefnogi nhw’n ariannol, yn ôl Mabon ap Gwynfor.

“Mae’r [cynnig] yn cydnabod y ffaith bod rhaid i ffermwyr fod yn gynaliadwy yn economaidd er mwyn bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol,” meddai.

“Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud ac rydyn ni’n aros i weld y manylion yn rhai o’r cynigion hyn.

“Rydyn ni’n rhannu pryderon am golli tir da, maethlon ar gyfer plannu coed ac am hyfywedd ymarferol y cynnig.”

Mae angen perffeithio’r cynigion yn y cyhoeddiad cyntaf, meddai Mabon ap Gwynfor.

“Er mwyn darparu unrhyw raglen newydd, rhaid i’r Senedd basio’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf, ac mae disgwyl i’r Llywodraeth ei gyflwyno’n nes ymlaen eleni.

“Gan weithio’n adeiladol gyda’r Llywodraeth byddwn ni’n edrych ar y Bil, er mwyn sicrhau bod y fframwaith ar gyfer amaeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â’n gobeithion ac ein huchelgeisiol ar gyfer y Gymru wledig.

“Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru’n annog pob ffermwr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod llais gwledig ac amaethyddol Cymru’n cael ei glywed yn glir.”