Mae 77% o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf yn y brifysgol neu’r coleg yng Nghymru’n fodlon ar eu cwrs eleni, yn ôl holiadur boddhad myfyrwyr.
Mae’r ffigwr yn uwch na’r llynedd, ac mae Cymru ychydig ar y blaen i wledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf mewn darparwyr addysg yng ngwledydd y Deyrnas Unedig.
Roedd yr arolwg ar agor rhwng Ionawr 6 ac Ebrill 30.
‘Astudio trwy gyfnod anarferol’
“I lawer o fyfyrwyr sy’n cwblhau’r arolwg hwn, byddant wedi bod yn nesáu at ddiwedd eu blwyddyn astudio gyntaf ym mis Mawrth 2020,” meddai Dr David Blaney, prif weithredwr CCAUC.
“Byddant wedi astudio trwy gyfnod anarferol a dylent fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.
“I rai myfyrwyr, fe wnaeth newid yn gyflym i ddysgu ar-lein – heb y profiadau cymdeithasol arferol a welir yn y profiad addysg uwch – osod myfyrwyr dan bwysau aruthrol, ac maent yn dal wedi llwyddo.
“Mae darparwyr addysg uwch wedi ymateb yn dda i’r cyfnodau o newid, a dylent fyfyrio ynghylch sut y maent wedi rhoi cymorth i fyfyrwyr gyflawni eu deilliannau dysgu.
“Mae sefydliadau wedi addasu’n dda i hwyluso dysgu ar gyfer myfyrwyr, y byddwn yn parhau i’w weld yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
“Bydd adborth gwerthfawr o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a all roi cymorth ac arweiniad i sefydliadau barhau i wneud gwelliannau lle y bo angen.”