Mae angen rhoi “cig ar asgwrn” yr achos dros annibyniaeth i Gymru, yn ôl Carrie Harper.

Roedd dirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam yn un o’r rheini fu’n siarad yng ngorymdaith annibyniaeth y ddinas dros y penwythnos.

Fe orymdeithiodd dros 8,000 o bobol yn ôl ffigyrau’r trefnwyr, AUOB Cymru mewn partneriaeth ag IndyFest Wrecsam a Yes Cymru.

Roedd nifer o siaradwyr a cherddorion mewn amryw o leoliadau yn Llwyn Isaf.

Hon oedd y bedwaredd orymdaith mewn cyfres o Orymdeithiau dros Annibyniaeth, a’r gyntaf ers llacio cyfyngiadau Covid-19.

Cafodd y tair gorymdaith flaenorol eu cynnal yn 2019 – yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr.

‘Diwrnod arbennig’

“Roedd o’n ddiwrnod arbennig,” meddai Carrie Harper wrth golwg360.

“Mae yna lot o bobol yn Wrecsam sydd erioed wedi gweld rhywbeth fel yna o’r blaen, ac mae’n beth da oherwydd rydan ni’n ceisio dechrau sgwrs ac annog pobol i gymryd rhan ac yn sicr fe ddaru nhw wneud hynny.

“Roedd yr amseru yn wych o ystyried sut mae pethau’n mynd yn lleol, mae yna lot o hyder yn perthyn i’r dref ar hyn o bryd.

“Felly roedd yr orymdaith yn adlewyrchiad o hynny hefyd dw i’n credu.”

‘Tipyn yn fwy i’w drafod’

Er bod Carrie Harper yn credu bod Cymru “ar y trywydd iawn” at annibyniaeth, mae hi’n dweud bod yna “dipyn yn fwy i’w drafod” cyn i’r weledigaeth gael ei gwireddu.

“Does dim modd gwadu’r egwyddor sylfaenol yn nhermau’r hawl i hunanbenderfyniad,” meddai wedyn.

“Ond yng Nghymru, dw i’n meddwl ein bod ni ar gam cynharach yn y sgwrs o’i gymharu â gwlad fel yr Alban.

“Mae gennym ni dipyn yn fwy i’w drafod.

“Rydyn ni’n wlad wahanol, ac mae hynny yn golygu bod gennym sgwrs wahanol i’w chynnal hefyd.

“Felly fyddwn i ddim yn dweud fod yr achos wedi’i wneud, er bod yr achos yn un hynod ddeniadol.

“Dwyt ti ddim yn clywed yr un hen ddadleuon ein bod ni’n rhy fach neu’n rhy dlawd (i fod yn wlad annibynnol) gymaint ag yr oeddet ti ychydig flynyddoedd yn ôl, oherwydd dyw’r ddadl yna ddim yn dal dŵr.

“Felly dw i’n meddwl bod y sgwrs wedi symud yn ei blaen, ond mae yna dal dipyn o ffordd i fynd.

“Ond yn sicr mae’n sgwrs lawer iawn mwy cyffredin yn rhywle fel Wrecsam nag yr oedd hyd yn oed bum mlynedd yn ôl.”

Dyfodol cyfansoddiadol Cymru

“Ddydd Iau nesaf, er enghraifft, mae Leanne Wood a Liz Saville Roberts yn dod i Wrecsam fel rhan o’r gwaith mae’r Blaid yn ei wneud i roi adborth i’r comisiwn sy’n edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru,” meddai Carrie Harper wedyn.

“Mae’n rhaid i ni roi cig ar yr asgwrn, does dim modd gwadu hynny.

“Mae angen i’r sgyrsiau hyn ddigwydd yn ein cymunedau ni.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi dechrau’r broses honno, ond mae angen i ni wneud mwy o hynny.

“Dw i’n credi ei fod o’n fater o un sgwrs ar y tro.

“Dyna sut mae o’n gweithio o ran cael pleidleiswyr Llafur i ddod draw i Blaid Cymru mewn etholiad, a’r un broses sydd angen bod ar waith er mwyn perswadio pobol i fod yn ben agored ynglŷn ag annibyniaeth.

“Allwn ni ddim disgwyl i bobol gymryd yr hyn rydyn ni’n ei ddweud fel ffaith, mae’n rhaid i ni wneud yr achos.

“Ond fel dw i’n dweud, dw i’n credu bod y broses yna wedi dechrau ers sbel.

“Rydan ni ar y trywydd iawn.”

Gorymdaith dros annibyniaeth yn Wrecsam

Mwy nag 8,000 yn gorymdeithio tros annibyniaeth yn Wrecsam

Mae penwythnos o weithgareddau ar y gweill