Dydy polisi newydd Llafur yn San Steffan o “Wneud i Brexit Weithio” ddim yn gwneud cyfiawnder â phobol Cymru, yn ôl Adam Price.

Fe fu arweinydd Plaid Cymru’n ymateb ar ôl Cwestiynau’r Prif Weinidog, pan wnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ddatgan ei gefnogaeth i gynlluniau Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, i beidio â cheisio ailymuno â’r Farchnad Sengl pe bai’r blaid yn dod i rym yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Adam Price, mae Mark Drakeford “yn rhoi polisi ei blaid uwchlaw anghenion pobol Cymru” drwy “gadw’n bendant at bolisi Llafur y Deyrnas Unedig”.

Yn ôl Plaid Cymru, mae gadael y Farchnad Sengl a’r undeb tollau’n costio biliynau o bunnoedd bob blwyddyn trwy golli masnach a refeniw trethi, ac mae yna ddarogan y bydd allforion a mewnforion ryw 15% yn is yn y tymor hir na phe bai’r Deyrnas Unedig wedi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Gyda Chymru’n fwy dibynnol ar fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd, mae ein heconomi wedi diodde’n waeth yn sgil y wasgfa ariannol sy’n gysylltiedig â rhwystrau na gweddill y Deyrnas Unedig, meddai Plaid Cymru.

Mae porthladdoedd Cymru wedi colli busnes trwy deithiau i Ewrop o Weriniaeth Iwerddon a thrwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon sydd ynghanol cyfnod o ras o ran gwirio allforion i’r Alban.

Ond mae gwleidyddion Llafur amlwg, gan gynnwys Alun Davies, wedi gwrthwynebu safbwynt Syr Keir Starmer, ac mae Sadiq Khan, Maer Llundain, hefyd o’r farn mai’r Farchnad Sengl yw’r ffordd orau ymlaen.

‘Colli masnach a cholli cyfle’

“Wrth wrthod cydnabod mai’r ateb yw ailymuno â’r farchnad sengl, wrth gadw’n bendant at bolisi Llafur y Deyrnas Unedig sy’n golygu bod Cymru ar ei cholled, mae’r Prif Weinidog yn rhoi polisi ei blaid uwchlaw anghenion pobol Cymru,” meddai Adam Price.

“Realiti Brexit i Gymru yw colli masnach a cholli cyfle.

“Mae hi bellach yn fwy deniadol anfon nwyddau o Weriniaeth Iwerddon i Belfast ac ymlaen i’r Alban nag yw hi i’w hallforio nhw drwy Gymru – dyma’r realiti i borthladdoedd Cymru.

“Mae’r ‘parth glanio’ bondigrybwyll ar gyfer cyflwyno protocol Gogledd Iwerddon sy’n eu heithrio nhw o’r rhan fwyaf o’r gwiriadau angenrheidiol amlinellodd arweinydd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig ddoe yn gwneud yr anfantais yma i borthladdoedd Cymru’n barhaol, ac fe fydd yn gwneud yr un fath i amaeth a gweithgynhyrchu Cymru.

“Fy nghwestiwn i’r Prif Weinidog oedd a wnaeth e rybuddio Syr Keir o’r peryglon i ddyfodol porthladdoedd Cymru.

“Doedd gan y Prif Weinidog ddim ateb i’r cwestiwn hwn.”