Mae Awyr Iach Cymru yn dweud eu bod nhw’n croesawu’r sylw i’r Bil Aer Glân yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 5).
Maen nhw’n dweud y bu “hir ymaros” ar gyfer y cyhoeddiad gan y glymblaid o sefydliadau ac elusennau fu’n ymgyrchu am y bil hwn, a’r gymuned ehangach sydd wedi’i heffeithio gan aer gwenwynig, ac y bydd y ddeddf newydd “yn sicrhau bod yr aer a anadlwn yng Nghymru yn lân ac yn iach”.
Bydd gwaith yn dechrau ar y bil yn ystod blwyddyn nesaf y Senedd, yn 2022-23.
Mae llygredd aer yn cyfrannu tuag at oddeutu 2,000 o farwolaethau cynnar ac yn costio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru bron i £1bn yn flynyddol.
Cyn Diwrnod Aer Glân Cymru fis diwethaf, mynychodd 30 o Aelodau’r Senedd o bob plaid wleidyddol, ddigwyddiad wedi’i drefnu gan Awyr Iach Cymru er mwyn ailafael yn yr ymgyrch dros gyflwyno deddfwriaeth aer glân yn ogystal â chyflwyno targedau ansawdd aer uchelgeisiol.
‘Buddugoliaeth fawr’
Yn ôl Joseph Carter, cadeirydd Aer Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru, mae’r cyhoeddiad “yn fuddugoliaeth fawr ar gyfer ysgyfeintiau Cymru”.
“Gwrandawodd Llywodraeth Cymru arnom, gan ddod â’r bil i rym,” meddai.
“A nawr rydym gam yn nes at ddyfodol glannach, mwy gwyrdd – dyfodol sy’n mynd i’n galluogi ni i gerdded lawr y stryd yn gwybod bod yr aer rydym yn ei hanadlu yn lân ac yn iach ac yn gwybod na fydd yn cael effaith ar ein hiechyd nac yn byrhau ein bywydau!
“Pan fyddwn ni’n edrych yn ôl, byddwn yn ystyried y Bil Aer Glân hwn fel moment gwirioneddol hanesyddol.
“Fydd ein plant a’n hwyrion ddim yn gallu credu pa mor fudr a llygredig oedd ein haer ni, a pham wnaethon ni ddioddef hyn cyhyd!
“Fydd llygredd aer ddim yn lladdwr mud mwyach, oherwydd bydd gennym ddeddfwriaeth a therfyniadau ansawdd aer llym y gallwn eu gorfodi, ac mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu.
“Mae’n cymryd amser, wrth gwrs, i fil droi’n gyfraith, ac i roi’r ddeddfwriaeth ar waith yn llawn.
“Rydym yn gobeithio y bydd newidiadau yn digwydd yn gyflym.
“Ond mae heddiw yn arwyddocaol, oherwydd mae’r newid pwysig hwn er gwell ac rydym yn dechrau gweld y goleuni!”
‘Ein cymunedau mwyaf bregus yr effeithir arnynt fwyaf’
“Mae llygredd aer yn ddrwg i’n hiechyd, ac, fel mae ymchwil ddiweddar wedi dangos, ein cymunedau mwyaf bregus yr effeithir arnynt fwyaf,” meddai Haf Elgar, is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.
“Mae hefyd yn ddrwg i’n planed, wrth i’r cynnydd mewn allyriadau sy’n newid yr hinsawdd gael effaith ar natur a chymunedau yng Nghymru a ledled y byd.
“A dyna pam rydym angen deddf Aer Glân cyn gynted â phosib – er mwyn sicrhau bod llygredd aer yn cael sylw priodol yn ein hanes.
“Mae heddiw yn gam pwysig ar y siwrnai tuag at Gymru lannach, fwy gwyrdd.”
Biliau eraill
Fel rhan o’r rhaglen ddeddfwriaethol, cyhoeddodd Mark Drakeford gyfres o Filiau ar gyfer cyfnod y Senedd, sef:
- Bil ar Blastigau Untro a fydd yn gwahardd neu’n cyfyngu ar werthu eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml, fel gwellt a chytleri plastig
- Bil Aer Glân i gyflwyno targedau a rheoliadau uchelgeisiol i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer
- Bil Amaeth i ddiwygio cymorth i amaethyddiaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd
- Bil ar Gydsynio Seilwaith i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr
- Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo i wella’r rheolaeth ar domenni glo nas defnyddir, gan ddiogelu cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyn, wrth i’r risg o niwed sy’n gysylltiedig â’r tywydd gynyddu iddynt
“Rwy’n falch o gyflwyno’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon gyda ffocws clir ar ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach Cymru,” meddai’r prif weinidog.
“Mae’r argyfwng hinsawdd, heb os, gyda ni.
“Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig, a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tiroedd a’n moroedd hardd.
Biliau diwygio
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan nodi bwriad y Llywodraeth i gyflwyno nifer o Filiau diwygio pwysig, a fydd yn cael eu cyflwyno o drydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol ymlaen.
Bydd y Biliau hyn yn cynnwys:
Bydd Bil Diwygio’r Senedd yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn y drydedd flwyddyn, gan fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, i greu Senedd fodern, gyda mwy o allu i graffu ar Lywodraeth Cymru, deddfwriaeth a chynrychioli pobl ledled Cymru.
Bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno i alluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy’n gwasanaethu cymunedau’n briodol ac sy’n helpu pobl i symud oddi wrth ddefnyddio eu ceir ar gyfer pob taith.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil ar Gyllid Llywodraeth Leol tua diwedd 2023 i ddiwygio’r ffordd mae pobl yn talu’r dreth gyngor yng Nghymru.
“Mae gennym agenda ddeddfwriaethol lawn o’n blaenau wrth inni osod y sylfeini tuag at y Gymru yr ydym am ei gweld,” meddai Mark Drakeford wedyn.
“Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau bod ein deddfwriaeth y gorau y gall fod a’i bod yn gwella bywydau pobol Cymru gyfan.”