Mae Joelle a’i phartner, Sarah McNena, yn rhedeg cwmni Drop Bear Beer Co. yn Abertawe, sy’n bragu cwrw crefft ac yn gwneud eu gorau i fod yn gwmni cynaliadwy.
Astudiodd Joelle am radd mewn Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe, cyn cyfarfod Sarah yn Awstralia.
“Fe wnes i orffen fy ngradd gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, a chefais i greisis chwarter oes, fel dw i’n licio’i alw, a sylwi’n sydyn: ‘Dw i ddim yn gwybod be i wneud efo fy mywyd’,” meddai Joelle.
“Roedd popeth wedi bod yn eithaf clir nes y pwynt hynny, ac yn sydyn roedd hi fel: ‘Ffwrdd â ti i’r byd’. Felly fe wnes i banicio, rhedeg i ffwrdd i Awstralia, am chwe mis i fod, ac wedyn roedd gen i job yn disgwyl amdana i yn China.
“Roeddwn i yn Awstralia, fe wnes i gyfarfod Sarah, penderfynu aros yno am gyn hired â phosib, ac wedyn fe wnaeth hi benderfynu dod yn ôl i Gymru efo fi.”
Ymgartrefodd y ddwy yn Abertawe, ac ychydig flynyddoedd yn ôl fe wnaeth Sarah roi’r gorau i yfed alcohol am gyfnod, a phenderfynodd Joelle ymuno â hi.
“Roedden ni’n byw gyda’n gilydd, doeddwn i ddim eisie eistedd yno’n yfed ar ben fy hun,” eglura Joelle.
“Yn syml, fe wnaethon ni geisio archwilio’r byd diodydd di-alcohol. Doedd e ddim yn rhywbeth roedden ni wedi’i wneud o’r blaen.
“Roedden ni’n caru cwrw crefft, felly fe wnaethon ni ddechrau mynd allan yn Abertawe a gweld yn sydyn bod y dewis yn gyfyngedig.
“Yn aml, bydden ni allan gyda ffrindiau a bydden nhw’n cael peintiau o IPA a stout, a bydden ni’n cael cynnig sudd oren neu goffi.
“Dyw e bendant ddim yr un vibe ar noson allan. Felly roedd gennym ni ddewis – mynd allan a pheidio mwynhau ryw lawer, neu beidio mynd allan o gwbl.
“Fe wnaethon ni edrych ar-lein, a doedd e ddim llawer gwell. Fe wnaethon ni adnabod bwlch yn y farchnad am gwrw crefft di-alcohol da, a chwmni cŵl, moesol…
“Unwaith gawson ni’r syniad a phenderfynu ein bod am wneud hyn, fe wnaethon ni ddechrau arbrofi yn ein cegin gyda sosban deg litr. Gyda chymorth llyfrau o’r llyfrgell, a’r We, mae’n syndod beth rydych chi’n gallu’i ddysgu!”
Lansiodd y busnes yn ystod haf 2019, ac ychydig iawn o brofiad bragu oedd gan y ddwy cyn dechrau arbrofi.
“Roedd Sarah wedi gwneud ychydig o fragu cwrw gartref yn Awstralia, ond y kits parod lle nad oes rhaid i chi wybod llawer,” meddai Joelle.
“Fe wnaethon ni ddysgu gymaint ag oedden ni’n gallu, dylunio’r ryseitiau, dechrau bragu, a chyrraedd pwynt a sylwi nad ydyn ni eisiau bod y math o bobol sy’n dweud: ‘Rydyn ni am wneud popeth, rydyn ni’n gwybod popeth’ os oedden ni am roi’r cynnyrch ar y farchnad.”
Fe gafodd y ddwy help gan un o gyn-fragwyr Heineken er mwyn sicrhau bod y ryseitiau’n rhai fyddai’n gwerthu.
“Ar ddiwedd y dydd doedden ni ddim jyst eisie gwneud rhywbeth roedden ni’n ei licio, roedden ni eisie iddo fod yn rhywbeth y byddai’r cyhoedd yn ei brynu a’i fwynhau.”
Yn ddiweddar, mae’r bragdy wedi derbyn statws amgylcheddol arbennig ‘B Corp’, ac mae bod yn gynaliadwy wrth wraidd egwyddorion personol ac egwyddorion busnes Joelle.
“Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig i’r busnes gan ei fod yn bwysig i’r ddau sylfaenydd ar lefel bersonol,” meddai.
“Dw i’n cofio pan roeddwn i yn yr ysgol gynradd, fi oedd aelod cyntaf pwyllgor eco-gyfeillgar fy ysgol,” meddai Joelle, gan ychwanegu ei bod hi’n rhan o’r clwb natur a’r clwb hel sbwriel hefyd.
“Dw i wedi bod yn byw ar ddeiet sy’n seiliedig ar blanhigion ers roedden i’n bedair, o’m hewyllys fy hun.
“Pan wnaethon ni benderfynu dechrau busnes, roedden ni’n teimlo’n gryf ein bod ni am ddefnyddio’n platfform i wneud y mwyaf o newidiadau cadarnhaol â phosib.
“Y ffordd mae’r byd yn mynd, mae unigolion eisie gwneud mwy. Ond ar ddiwedd y dydd, oni bai bod busnesau yn gwneud yr un fath a defnyddio eu dylanwad, dydyn ni ddim am weld y newid sylweddol rydyn ni ei angen…
“Achos ein bod ni’n fusnes sy’n tyfu, dydyn ni ddim eisie bod yn gwneud yr un fath ag oedden ni’n ei wneud yn ôl yn y fflat hwnnw yn y Mwmbwls.”
Yn ogystal â byw ar ddeiet sy’n seiliedig ar blanhigion, mae’r ddwy yn ceisio siopa’n lleol, ac ers dechrau’r pandemig, maen nhw’n ceisio dod yn aelwyd ddi-blastig.
“Mae’n haws dweud na gwneud, dydi’r cynnyrch ddim wastad y rhataf, ond rydyn ni’n trïo siopa’n gynaliadwy, a defnyddio ein harian yn ‘wleidyddol’.
“Pan rydyn ni’n prynu gan fusnesau, rydyn ni’n edrych ar beth maen nhw’n ei wneud… rydyn ni eisie prynu gan gwmnïau sydd â’r un daliadau â ni.
“Ar ddiwedd y dydd, mae sut rydech chi’n gwario arian yn cael dylanwad.”
Adduned blwyddyn newydd Joelle yw parhau i ddod yn fwy cynaliadwy, a “gwneud penderfyniadau cywir” pan mae hynny’n bosib.
Mae Joelle wrth ei bodd yn yr awyr agored, yn hoffi coginio, ac yn caru sglefrfyrddio ar fwrdd hirach na bwrdd arferol – longboard.
“Dw i wir yn caru’r awyr agored. Tasa chi’n gofyn i Sarah, byddai hi’n disgrifio fi fel cocker spaniel o ran personoliaeth – petawn i’n cael mynd am dro drwy’r adeg, mi fyddwn i.
“Dw i’n caru bod tu allan a dod o hyd i lwybrau anghysbell dros Gymru, yn mynd efo fy mag ar fy nghefn.”
Adduned blwyddyn newydd arall ganddi yw ceisio treulio mwy o amser i ffwrdd o’r bragu.
“I fi, efo’r busnes, dw i wrth fy modd efo beth dw i’n ei wneud, ond weithiau dw i angen mwy o falans o ran bywyd a gwaith. Dw i wedi dod yn ychydig o workaholic.
“Dw i’n meddwl y gwna i gymryd rhan yn Ionawr Sych hefyd.”