Mae ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd yn ffactor ym mhenderfyniad dyn busnes llwyddiannus o dde Cymru i symud i fyw yn Ffrainc.

Yn sgil y cytundeb rhwng Llywodraeth San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd flwyddyn yn ôl, ers 1 Ionawr eleni mae rheolau newydd ar gyfer mewnforion ac allforion rhwng Prydain a’r cyfandir.