Wrth edrych yn ôl dros flwyddyn o straeon lleol gan bobol leol, mae ambell thema’n ymddangos: Covid, ac yn benodol straeon newyddion da am gymunedau’n dechrau dod dros y pandemig; llwyddiannau pobol ifanc leol; a golwg i’r dyfodol, gyda gwaed newydd yn mentro i fyd busnes a gwleidyddiaeth leol.

Dyma rai o straeon mwyaf poblogaidd y gwefannau bro yn ystod 2021…

Caernarfon360 – Myfyrwraig o Gaernarfon yn bencampwraig gwaywffon

Enillodd Abbi Parkinson, sy’n astudio Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth taflu gwaywffon i rai dan 20 oed.

Mae Abbi wedi bod yn hyfforddi mewn athletau ers yn naw oed, ond dim ond y llynedd aeth hi ati i hyfforddi’n llawn i daflu’r waywffon.

Myfyrwraig o Gaernarfon yn ennill Pencampwriaeth Taflu Gwaywffon Cymru i ferched dan 20

Hannah Hughes

Enillodd Abbi Parkinson, y ferch o Gaernarfon sy’n astudio Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, y wobr gyntaf yn ddiweddar mewn cystadleuaeth taflu gwaywffon i rai dan 20 oed.

Caron360 – Meddygfa Tregaron yn dechrau ar y brechu

Gyda’r hwblyn yn denu’r penawdau erbyn hyn, flwyddyn union yn ôl cyhoeddwyd stori fwyaf poblogaidd gwefan ardal Tregaron. Roedd y lluniau o’r trigolion yn derbyn eu brechlyn cyntaf yn y ganolfan hamdden yn arwydd o obaith ar ôl gaeaf hir.

received_159950402303937

Meddygfa Tregaron yn brechu yn erbyn Covid19. 

Enfys Hatcher Davies

Tro’r trigolion dros 80 oedd derbyn eu pigiadau heddiw.

Ogwen360 – Dechrau ar y brechu

Thema gyfarwydd oedd yn dwyn y penawdau yn Nyffryn Ogwen ym mis Chwefror, pan agorwyd drysau Canolfan Feddygol yr Hen Orsaf er mwyn brechu yn erbyn Covid-19.

Dechrau ar y brechu

Carwyn

Newyddion gobeithiol am gychwyn y broses brechu rhag Coronafeirws

Clonc360 – Brawd a chwaer o Barc-y-rhôs yn bencampwyr

Ym mis Awst, bu’r ddau yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Iau Cymru, lle daeth Beca yn ail yn y naid-driphlyg ac Osian yn ennill y naid uchel a’r ras clwydi 100 metr. Torrodd y ddau eu record bersonol flaenorol, gyda Beca’n neidio 11.33 metr ac Osian yn clirio 1.95 metr gyda’i naid uchel.

Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, aeth Beca ymlaen i ddod yn y drydydd safle ym Mhencampwriaeth Hŷn Cymru.

Chwaer a brawd yn bencampwyr o Barc-y-rhos

Dylan Lewis

Beca ac Osian yn profi llwyddiant mawr yn y byd athletau ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.

BroWyddfa360 – Pwy fydd cynghorydd newydd Llanrug?

Bu un o ohebwyr ifanc yr ardal, Mared Roberts, yn rhoi sylw i’r pedwar ymgeisydd oedd eisiau cynrychioli pentref Llanrug ar Gyngor Gwynedd. Tipyn o gymorth i drigolion y pentref, wrth iddynt fynd ati i fwrw pleidlais yn yr is-etholiad fis Mawrth!

Pwy fydd cynghorydd newydd Llanrug?

Mared Roberts

Pwy yw’r pedwar ymgeisydd yn is-etholiad Cyngor Gwynedd dros ward Llanrug

BroAber360 – Cyfethol Cynghorwyr Tref newydd

Mae’n amlwg bod gwleidyddiaeth leol yn fwy ‘poblogaidd’ nag y byddai nifer o bobol yn credu… gan mai’r brif stori ar wefan gogledd Ceredigion y llynedd oedd erthygl yn datgelu enwau’r tri chynghorydd tref newydd.

Bellach, mae pobol Aberystwyth yn gwybod mwy am gefndir Kerry Ferguson, Jeff Smith a Danny Ardeshir.

Cynghorwyr tref newydd wedi eu cyfethol

Mererid

Cyngor Tref Aberystwyth yn cyfethol tri cynghorydd newydd

BangorFelin360 – Dathlu 125 mlwyddiant Pier y Garth

Yn ôl ym mis Medi, bu plant Ysgol Hirael yn dathlu 125 mlwyddiant Pier y Garth drwy gyflwyno plac arbennig a ddyluniwyd ganddynt i Faer Bangor, Owen Hurcum.

Blas o’r Bröydd – uchafbwyntiau 2021

Dyma’r straeon mwyaf poblogaidd ar bob gwefan fro yn ystod 2021

DyffrynNantlle360 – Pobi yn yr hen fanc

Glywsoch chi am bitsa o’r enw Jaci Soch?! Enwau gwahanol ar bitsas yw un o’r pethau diddorol am gaffi newydd Pobi. Sioned Young fu’n holi Sophie Williams am y cam cyffrous o agor busnes yn yr hen fanc ym Mhenygroes, gan ddangos bod gan bob busnes bach stori ddifyr i’w rhannu.

Pobi

Pobi yn agor ei ddrysau yn yr hen fanc.

Sioned Young

Wedi 8 mis prysur o redeg busnes Pobi o’i chegin gartref, mae Sophie Owen o Dalysarn wedi cymryd cam cyffrous i adleoli i’r hen fanc ar Heol y Dŵr, Penygroes.  

Cynhelir Gwobrau Bro360 ddydd Gwener 28 Ionawr a bydd cyfle gan bawb i bleidleisio am eu hoff stori. Cadwch lygad ar bro360.cymru am y manylion.