Dw i’n sgrifennu’r golofn yma ar fy ochr, yn y tywyllwch. Mae fy nghymar yn cysgu’n drwm gerllaw, a’r bleinds wedi eu cau yn dynn. Prin 24 awr sydd tan y bydda i nôl yn y ‘swyddfa’ adre. Ar ôl cyfnod o orffwys, distawrwydd a chwato tymhorol, fe fydda i ar gael unwaith eto, trwy ebost, ffôn, Skype, Zoom a Teams (a Twitter, Facebook, Instagram a Whatsapp…). Bydd hi’n amser datrys problemau, hwyluso a hyfforddi, chwilota, cyfarfodydd a gwaith ‘papur’ di-ben-draw. Ond am heddiw, dw i’n ceisio dal