Ma’ hi’n gyfnod o upheaval yn tŷ ni. (Cyn i chi gwyno am fy nefnydd o’r Saesneg, ma Geiriadur Prifysgol Cymru yn awgrymu ‘chwalfa’ – ac falle ddoith hynny, ond dyden ni ddim yna eto.)

Gan fod babi ar y ffor’, dw i wedi troi, yn hynod analluog, at wneud gwelliannau i’r tŷ. Dw i ddim yn siŵr pam – ma’r blwmin tŷ yn olreit – alla’ i m’ond meddwl bod e’n rhyw fath o ymdrech isymwybodol i ’neud rhwbeth tra bod y wraig yn gwneud y gwaith pwysig.

O’r herwydd, dw i’n sgwennu hwn mewn ’stafell sydd wedi hanner ei phaentio i gyfeiliant gwaith adeiladu aflafar. Do, fe gyflogwyd adeiladwr – dw i’n ’nabod fy nghyfyngiadau, o ydw.

Dw i felly’n golygu Golwg gyda chwmni, a hynny am y tro cynta’ ers dechrau yn y swydd bron i ddwy flynedd yn ôl, a ninnau’n gweithio o’n cartrefi. Ni ’di dod yn dipyn o fêts, fi a’r builder, er bo’ fi’n rhyw dybio’i fod e’n meddwl bo’ fi’n reit ddi-siâp.

Ma’ fe’n gofyn i fi o bryd i’w gilydd shwt ‘finish’ fydden i’n lico ar hyn a’r llall – dw i’n bregliach, yn brygawthan, yn baldorddi (diolch GPC!) fel Boris Johnson am ’chydig mewn ymateb cyn iddo fe weud “Shall I just do it as I’d like it?” Ie, plîs, boi.

Ma’ fe ’chydig bach fel bod nôl yn yr ysgol. Â finne ar shifft hwyr golwg360 neithiwr, fe ddechreuodd bore ’ma gyda fe’n gofyn “What time d’you call this??” O’dd chwant arna’i ’weud wrtho fe bo’ golygu gwefan a chylchgrawn yn waith caled iawn, diolch yn fawr, ond ’neud paned iddo fe nes i. Dw i’n ’neud hynny’n dda, medde fe – “absolutely fantastic” – so ma hynna’n rhwbeth.

Fel ma’ hi’n digwydd, dyma fydd fy ngholofn olaf-ond-un fel Prif Olygydd Golwg a golwg360. Gyda’r holl upheaval, ma’ hi’n bryd symud ’mlaen – ond bydd fy ngholofn yn parhau’n bythefnosol gan symud tua’r tudalennau cefn gyda’r plant drwg!

Fe allen i sgwennu colofn gyfan yn diolch i bawb am eu hymdrechion aruthrol yn cynnal gwefan a chylchgrawn yn ystod cyfnod hynod a chaled – heb sôn am lansio’r cylchgrawn ar y We – ond fe adawn ni hynna tan wthnos nesa’.

Am y tro, mae ’na ddatblygiadau newydd i’w crybwyll. Fe fydd adran Safbwynt ar ei newydd wedd ar golwg360 yn fuan (mwy am hynny wthnos nesa’) ac ma’ ’na adnodd newydd arall bellach yn fyw – Calendr360.cymru.

Dw i wedi sôn o’r blaen fod y pandemig affwysol ’ma wedi dangos i fi bwysigrwydd digwyddiadau Cymraeg – a’n dyled ni i’r bobol weithgar sy’n eu trefnu. I geisio helpu gyda hynny – ac i geisio helpu i wneud 2022 yn flwyddyn o gefnu ar y pendemig (gobeithio!) gyda digwyddiadau Cymraeg llwyddiannus ar hyd a lled y wlad – mae Golwg wedi lansio… lle i bawb allu hyrwyddo eu digwyddiadau.

Felly, os ydech chi’n un o drefnwyr diwyd Cymru, os oes ganddoch chi ddigwyddiad o unrhyw fath, Calendr360 yw’r adnodd perffaith i chi – ma’n galluogi pawb yng Nghymru i hyrwyddo digwyddiadau lleol neu genedlaethol, a hynny’n rhad-ac-am-ddim.

Ma’r calendr eisoes yn cynnwys amrywiaeth o weithgarwch – o gyrddau diolchgarwch i arddangosfeydd celf. Ma’n lle delfrydol i rannu manylion teithiau theatrau, gweithgareddau ar-lein eich sefydliad, neu gemau rygbi eich clwb lleol… unrhyw beth a phopeth sy’n agored i’r cyhoedd!

Bydd pob digwyddiad yn ymddangos ar y calendr cenedlaethol – ac os yw’r digwyddiad mewn ardal sydd â gwefan fro, bydd yn ymddangos f’yna hefyd.

Ma’ rhoi’ch digwyddiad yn y calendr yn hawdd:

  • Ymuno / mewngofnodi ar calendr360.cymru neu eich gwefan fro
  • Creu > Digwyddiad
  • Llenwi’r bylchau gyda’r manylion pwysig
  • S’dim angen poster gyda thestun, ond beth am ychwanegu llun, neu fideo?
  • Pwyso ‘barod i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’

A ’na ni – bydd eich digwyddiad yn rhan o’r calendr digidol gorau yn y Gymrâg!

Blwyddyn newydd dda i chi gyd – gan obeithio y gwelwn ni’n gilydd mewn digwyddiadau di-ri yn y flwyddyn i ddod…

Calendr360: lle pawb i hyrwyddo digwyddiadau

Garmon Ceiro

Gyda’r flwyddyn newydd, mae gwefan newydd yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru hyrwyddo digwyddiadau lleol a chenedlaethol

Diolch i drefnwyr digwyddiadau Cymraeg

Garmon Ceiro

“Dw i ddim yn un mawr am farddoniaeth, ond o’n i’n joio mynd i nosweithiau Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd”