Os ydych chi’n trefnu digwyddiad, mae gan Golwg yr adnodd perffaith ar eich cyfer.
Mae Calendr360 yn wefan newydd sy’n galluogi pawb yng Nghymru i hyrwyddo digwyddiadau lleol neu genedlaethol, a hynny’n rhad ac am ddim.
Mae’r calendr eisoes yn cynnwys amrywiaeth o weithgarwch – o gigs i arddangosfeydd celf. Mae’n lle delfrydol i rannu manylion teithiau theatrau, gweithgareddau ar-lein eich sefydliad neu gemau rygbi eich clwb lleol. Unrhyw beth a phopeth sy’n agored i’r cyhoedd.
Bydd pob digwyddiad yn ymddangos ar y calendr cenedlaethol, ac os ydy’r digwyddiad mlaen mewn ardal sydd â gwefan fro, bydd yn ymddangos yn y fan honno hefyd.
Mae gosod eich digwyddiad yn y calendr yn syml:
- Ymuno / Mewngofnodi ar calendr360.cymru neu eich gwefan fro
- Creu > Digwyddiad
- Llenwi’r bylchau gyda’r manylion pwysig
- Bydd dim angen poster llawn testun, ond beth am ychwanegu llun deniadol, neu fideo?
- Pwyso ‘barod i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’
A dyna ni. Bydd eich digwyddiad yn rhan o’r calendr digidol gorau yn y Gymraeg!