Dw i’n cofio pan ddechreues i yn y job ’ma, ro’dd rhai o’r negeseuon llai cefnogol, wedwn ni, yn canolbwyntio ar y ffaith ’mod i’n byw yng Nghaerdydd, yn hytrach na’r ‘Fro Gymraeg’.

Do’n i ddim yn becso rhyw lawer am y peth, gan ateb bo’ fi’n siarad “gyment o Gymrâg lawr ffor’ hyn jolch yn fawr”.