Fel un a fynychodd wythnos gyfan pob Eisteddfod Genedlaethol yn ddi-dor am 55 mlynedd, ond sydd â dim rhan yn ei threfniadau bellach, caniatewch i mi longyfarch pawb a fu’n ymwneud â’r Eisteddfod Amgen eleni am gynnal achlysur mor llwyddiannus dan amodau mor anodd, gan amlygu gweledigaeth, gwaith ac ymroddiad.