Mae arweinwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin “yn benderfynol o wneud defnydd llawn o bwerau ychwanegol” i reoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau, yn ôl aelod o’r Cabinet.

Dywed y Cynghorydd Alun Lenny fod yr awdurdod “yn poeni’n fawr am y difrod mae’r twf afresymol” mewn ail gartrefi yn ei achosi yn y sir, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol fel Llansteffan a chymunedau gwledig fel Cilycwm a Myddfai.

“Yn fy marn i, mae’n gwbl annerbyniol fod pobol sy’n ddigon cyfoethog i allu fforddio ail gartref yn atal pobol ifanc rhag prynu eu cartrefi cyntaf yn eu cymunedau eu hunain,” meddai’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Adnoddau.

“Rydyn ni’n dweud ail gartref, ond ail dŷ yw e, mewn ffordd, oherwydd allwch chi ddim galw tŷ lle mae rhywun ond yn treulio ychydig wythnosau’r flwyddyn yn gartref.”

Dywed fod perchnogaeth ail gartrefi’n broblem yng Nghernyw, Ardal y Llynnoedd a gogledd-ddwyrain Lloegr, yn ogystal â Chymru, ond fod yr iaith Gymraeg yn “ffactor unigryw” yng Nghymru.

Ateb cwestiwn am y premiwm 300%

Roedd y Cynghorydd Alun Lenny yn siarad yn ystod cyfarfod llawn y Cyngor, gan ymateb i gwestiwn gan Ellen Humphrey, un o’r trigolion lleol, a ofynnodd a fyddai’r awdurdod yn gweithredu’r premiwm 300% ar dreth y cyngor ar ail gartrefi o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Dywedodd hi fod ail gartrefi’n “fater sylweddol” i gymunedau a phrynwyr tro cyntaf yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Fis Ionawr y llynedd, fe wnaeth y Cyngor gymeradwyo cynnig oedd yn croesawu cynnydd arfaethedig yn y dreth trafodion tir wrth brynu ail gartrefi, ond galwon nhw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach i reoli eu twf.

Dywedodd y cynnig y byddai’r Cyngor yn codi premiwm o o leiaf 200% ar ail gartrefi pe bai’r mesurau hyn yn dod i rym.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, roedd y mesurau hyn am ddod i rym yng Nghymru ar y cyfan, yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ar Orffennaf 4.

Yn eu plith mae dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr – i’w cyflwyno erbyn diwedd yr haf.

Dywedodd y cynghorydd y byddai gan adrannau cynllunio’r cynghorau yr hawl i fynnu bod perchnogion cartrefi’n cael caniatâd cynllunio i newid y dosbarth defnydd.

“Bydd y polisi cynllunio cenedlaethol hefyd yn cael ei newid i roi’r hawl i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned – ac mae’n fwriad cyflwyno’r cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr,” meddai.

Dywed nad yw’r Cabinet eto wedi cael cyfle i drafod y mesurau newydd, ond fod bwriad i wneud hynny’n fuan iawn.

“Gallaf sicrhau ein bod ni’n benderfynol o wneud defnydd llawn o’r pwerau ychwanegol rydym wedi’u derbyn gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

Fe fu gan gynghorau yng Nghymru ddisgresiwn ers tro i gyflwyno premiwm treth cyngor ar ail gartrefi.

Fe wnaeth Abertawe ddyblu’r premiwm y llynedd.

O’r flwyddyn nesaf, bydd modd i gynghorau godi premiwm o hyd at 300%.

Mae Grŵp Perchnogion Cartrefi Cymru wedi disgrifio’r cynnydd fel un “nad oes modd ei amddiffyn yn foesol”.

Dyfodol i’r Iaith yn herio cynghorau sir ynghylch y galw am dai newydd

Mae’r mudiad yn dweud bod “digon o dai fel cyfanswm, ond mai’r angen yw canolbwyntio ar anghenion penodol megis tai fforddiadwy”