Mae cynghorwyr yn Wrecsam yn cefnogi cynlluniau ar gyfer ail gais i ddod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig.
Daeth cyhoeddiad fis diwethaf bod Bradford wedi curo’r ddinas newydd yn y ras i ddal y teitl yn 2025.
Fodd bynnag, datgelodd Cyngor Wrecsam yn ddiweddar eu bod nhw’n paratoi i gyflwyno cais pellach i fod yn Ddinas Diwylliant yn 2029, ar ôl cael adborth cadarnhaol gan y beirniaid.
Cymeradwyodd aelodau’r bwrdd gweithredol ymgais arall i ennill y teitl mewn cyfarfod ddydd Mawrth (Gorffennaf 11).
Cytunwyd hefyd i gefnogi trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, a gadarnhaodd eu bwriad i ddod i Wrecsam yn 2025.
Dywed y Cynghorydd Hugh Jones, deilydd portffolio’r celfyddydau, ei fod yn hyderus am gyfleoedd y cyngor i lwyddo yn 2029.
“Os edrychwch ar y ffeithiau gyda Bradford a maint eu tîm, roedd ganddynt wyth aelod o staff llawn amser ac asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a oedd wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers dwy flynedd a hanner,” meddai.
“Mewn ychydig dros chwe mis, daethom mor agos at ennill ac mae hynny’n rhoi syniad o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn Wrecsam.
“Yn amlwg, rydym am wneud cais ar gyfer 2029 a pham na fyddem ni oherwydd mae’n debyg bod 2025 yn werth tua £300m.
“Erbyn i ni gyrraedd 2029, gallwch ddychmygu beth allai hynny fod yn werth i Wrecsam.
“Yn 2025, rydym am ddod ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ôl adref i Wrecsam oherwydd bydd hynny’n cynyddu ac yn datblygu’r diwylliant a’r dreftadaeth Gymreig aruthrol sydd gennym o fewn ein cymunedau.”