Mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi colli cysylltiad “gyda’r bobol maen nhw i fod i’w cynrychioli”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw hyn ar ôl i Aelodau o’r Senedd bleidleisio o blaid cadw’r opsiwn i weithio o bell.

Cafodd y cynnig, sy’n caniatáu gweithio hybrid rhwng cartrefi a’r Senedd, ei basio gyda 38 pleidlais o blaid a 14 yn erbyn, ddydd Mercher (Gorffennaf 13).

Daw wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud wrth staff fod angen iddyn nhw ddychwelyd i swyddfeydd gan nad yw Aelodau Seneddol bellach yn gallu ymuno â siambr Tŷ’r Cyffredin a phwyllgorau dethol ar-lein.

Yn y ddadl, mynegodd Heledd Fychan o Blaid Cymru ei chefnogaeth i’r cynigion gan ddadlau ei bod yn gwneud gyrfa wleidyddol yn fwy hygyrch i’r rhai a fyddai’n elwa o weithio hybrid.

“Pobol â chyfrifoldebau gofalu, er enghraifft, nid yn unig gyda phlant, ond efallai gyda rhiant oedrannus neu bartner sydd angen eu cefnogaeth; pobol anabl sy’n credu na allent byth fod yma’n rheolaidd oherwydd eu hamodau, a’r ffaith bod yr angen i fod yng Nghaerdydd yn rhwystr iddynt feddwl y gallent fod yn gynrychiolydd o’u rhanbarth neu etholaeth; a’r rhai sy’n byw ymhell i ffwrdd hefyd,” meddai.

Ychwanegodd fod gweithio o bell yn ystod y pandemig wedi helpu pan oedd ei mab wedi bod yn sâl, gan ganiatáu iddi fod yn rhiant tra hefyd yn cynrychioli ei hetholwyr.

‘Dim rheswm dros gynnal cyfarfodydd hybrid’

Fodd bynnag, dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar AoS mai “dyma enghraifft arall eto o ba mor ddigyswllt y mae gwleidyddion Llafur a Phlaid Cymru gyda’r bobol y maent i fod i’w cynrychioli”.

“Mae pobol Cymru yn ethol gwleidyddion i’w cynrychioli yn y Senedd, nid i’w cynrychioli o’u soffa,” meddai.

“Does dim rheswm dros gynnal cyfarfodydd hybrid o’r Senedd na’i phwyllgorau nawr bod pandemig Covid dan reolaeth.

“Os yw seneddau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a ledled y byd yn gallu cyfarfod yn llawn yn y cnawd yna dylem fod yn cyfarfod yn y cnawd hefyd.”