Mae Dyfodol i’r Iaith wedi anfon cyfres o gwestiynau ynghylch adeiladu tai newydd at nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan holi pa fath o dai sy’n cael eu hadeiladu, ar gyfer pwy a pha ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i effaith yr adeiladu ar ardaloedd lle mae o leiaf 25% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Yr awdurdodau lleol dan sylw yw Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Powys, Penfro a Chastell-nedd Port Talbot.
“Mae’r pwynt cyffredinol am ddigonedd y stoc tai cyffredinol yn cael ei wneud gan ymchwil Ian Mulheirn, uwch swyddog ym mudiad “Renewing the Centre”,” meddai Wyn Thomas ar ran y mudiad.
“Mae’r gwaith hwn yn dangos bod digon o dai fel cyfanswm, ond mai’r angen yw canolbwyntio ar anghenion penodol megis tai fforddiadwy.
“Mae tai gwag a thai ar werth ymhlith yr aneddiadau sydd ar gael i’w haddasu yn gartrefi.
“Mae angen talu llawer mwy o sylw i’r stoc tai lleol a blaenoriaethu anghenion cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol.”
Effaith ail gartrefi a thai gwyliau
Yn ôl Heini Gruffudd, sydd hefyd o fudiad Dyfodol i’r Iaith, mae’r siroedd dan sylw yn “amrywiol eu hanghenion, ac mae amrywiaeth o fewn y siroedd”.
“Mae ail gartrefi a thai gwyliau’n effeithio’n fawr ar ardaloedd i wahanol raddau,” meddai wrth golwg360.
“Yr hyn sy’n arwyddocaol yw bod y siroedd o dan sylw naill ai wedi colli poblogaeth neu wedi aros yn eu hunfain fwy neu lai dros y deng mlynedd diwethaf.”
Mae Ceredigion wedi colli 5.8% o’i phoblogaeth, meddai, Gwynedd wedi colli 3.7% o’i phoblogaeth, Ynys Môn 1.2% a Chonwy 0.4%.
“Mae’r rhesymau am hyn yn amrywiol,” meddai wedyn.
“Pobol ifanc yn symud allan i gael gwaith, poblogaeth hŷn yn marw.
“Er hyn, mae cynlluniau codi tai gan y siroedd hyn, ac os yw’r boblogaeth gynhenid yn lleihau, mae posibilrwydd uchel mai cynnydd mewnddyfodiaid fyddai effaith codi tai ar raddfa fawr.
“Mae prisiau tai’n gyffredinol yn ardaloedd gorllewinol Cymru y tu hwnt i afael poblogaeth leol, a hyn yn un ffactor sy’n gyrru pobol ifanc o’r mannau hyn.
“Diddordeb Dyfodol felly yw y dylai’r adeiladu ganolbwyntio ar wasanaethu anghenion pobol leol, gyda thai cymdeithasol yn flaenoriaeth.”
Nifer yr ail dai a thai gwyliau yng Nghymru
Mae 23,974 o ail gartrefi a thai gwyliau yng Nghymru, wedi’u rhannu fesul ardal fel a ganlyn:
Ynys Môn 2,208 (tua 8% o’r holl dai)
Gwynedd 4,720 (tua 9% o’r holl dai) ( i lawr o 5,098 y llynedd – effaith codi treth uwch o bosib)
Conwy 1,155
Dinbych 397
Ceredigion 1,342 (tua 5.5%)
Penfro 1,715
Sir Gâr 4,216
CNPT 495
Yn Abersoch, mae 39.8% o’r tai yn ail dai.
Gan gynnwys tai gwyliau, mae 46% o dai Abersoch heb fod yn gartrefi cyntaf, ac mae’r ffigwr yn gostwng i 43% yn Aberdyfi a 34% ym Meddgelert.
Yn 2020-21 roedd 44% o’r dai a gafodd eu gwerthu yn Nwyfor Meirionnydd yn ail gartrefi neu’n dai gwyliau.
Yr ateb posib
Yn ôl Heini Gruffudd, mae gan lawer o siroedd rai miloedd o dai gwag sy’n segur.
“Mae angen dod â rhain yn ôl i’r farchnad dai cyn codi rhai newydd,” meddai.
“Mae modd i siroedd brynu tai sydd ar werth a thai gwag, a’u gosod i bobol leol. Mae Gwynedd newydd gyhoeddi cynllun blaengar i wneud hyn.
“Mae Gwynedd yn rhoi cymorth i bobol leol i brynu ac adnewyddu tai.”
Ond beth am y tu allan i’r Fro Gymraeg draddodiadol, felly?
“Tra bod y pwyslais ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin fel y siroedd mwyaf Cymraeg, mae rhannau Cymraeg ym Mhenfro, Dinbych a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae angen hyrwyddo polisi tai blaengar yn y mannau hyn hefyd,” meddai Heini Gruffudd wedyn.