Mae’r Senedd wedi pleidleisio i gefnogi galwadau am ymestyn cynllun peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn cefnogi’r gweithwyr sy’n cael eu cyflogi mewn diwydiannau trwm a fydd yn cael eu heffeithio gan drawsnewidiad Cymru i economi carbon-sero net.

Mae’r bleidlais ar y ddadl, a gafodd ei chyflwyno gan Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bellach yn golygu er nad yw’n rhwymol y dylai Llywodraeth Cymru edrych nawr ar ddichonoldeb yr awgrym.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau, wrth ymestyn cynllun incwm sylfaenol i rai mewn diwydiant trwm, y gallai cymunedau sy’n ddibynnol ar swyddi yn y sector hwnnw osgoi gweld y “dinistr a gafodd ei achosi gan Thatcher yn cael ei ailadrodd” wrth i ddiwydiant a’r economi newid i gwrdd ag ymrwymiadau sero-net.

Sicrhau cefnogaeth

“Mae’n wych gweld y Senedd yn cefnogi’r syniad hwn,” meddai Jane Dodds.

“Hoffwn ddiolch am y gefnogaeth drawsbleidiol yr ydym wedi’i chael ac UBI Lab Cymru am eu cefnogaeth hefyd.

“Mae’r economi fyd-eang yn mynd trwy’r trawsnewid mwyaf arwyddocaol a welwyd ers degawdau.

“Wrth inni wynebu bygythiad chwalfa hinsawdd, mae diwydiant yn gorfod newid yn gyflymach nag o’r blaen er mwyn cyflawni ein nodau hinsawdd.

“Mae’r newid i sero net nid yn unig yn hanfodol, ond hefyd yn anochel.

“Bydd gwledydd sy’n methu â pharatoi ar ei gyfer yn cael eu taro’n gynyddol galed gan yr ansefydlogrwydd sy’n gysylltiedig â gwresogi byd-eang a newidiadau canlyniadol i’r economi a’r gweithlu.

“I’r rhai sy’n gweithio mewn diwydiant trwm ar hyn o bryd, sy’n aml yn dibynnu ar brosesau carbon-ddwys i gynhyrchu deunyddiau crai a nwyddau gweithgynhyrchu, mae’r trawsnewid hwn yn peri heriau sylweddol.

“Rhaid i ni sicrhau bod cymunedau sy’n dibynnu ar hyn o bryd ar gyflogaeth garbon-ddwys yn cael eu cefnogi i drosglwyddo.”

‘Pennu dyfodol eu hunain’

“Trwy ymestyn y peilot BI o’r rhai sy’n gadael gofal i weithwyr diwydiannol, gallai Llywodraeth Cymru ddarparu polisi yswiriant i gymunedau, gan atal cymunedau rhag syrthio i dlodi pellach a dirywiad wrth i ddiwydiannau newid,” meddai wedyn.

“Gallem wneud yr achos dros rwyd diogelwch na fyddai neb yn syrthio drwyddo ond y gallai pawb godi ohoni.

“Yr un mor bwysig, gellir defnyddio BI ar gyfer y grŵp hwn o weithwyr i gefnogi pobl tra byddant yn cael eu hailhyfforddi ac uwchsgilio i gael cyflogaeth yn niwydiannau’r dyfodol.

“Gallwn rymuso gweithwyr i bennu eu dyfodol eu hunain, yn hytrach na chael eu dal yn y gofod rhwng gwaith cyflog isel a gwaith ansicr a system nawdd cymdeithasol cosbol.

“Ni allwn, dan unrhyw amgylchiadau, ailadrodd camgymeriadau trychinebus Thatcher a’r Ceidwadwyr lle dinistriwyd cymunedau cyfan Gymru gan gau diwydiannau heb unrhyw gynllun i gymryd eu lle a dim cynlluniau i ailsgilio’r gweithwyr a gollodd eu swyddi.”