Mae cyfnod Boris Johnson yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn tynnu tua’r terfyn, wedi iddo gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu.
Fodd bynnag, bydd yn parhau i fod yn Brif Weinidog tan o leiaf fis Medi, pan fydd ei olynydd yn cael ei ethol.
Mae’n wleidydd ac yn arweinydd sydd wedi hollti barn, ond sut fydd Boris Johnson yn cael ei gofio yng Nghymru?
Apêl wreiddiol
Does dim modd gwadu fod Boris Johnson, ar un adeg, wedi bod ag apêl eang yng Nghymru.
Wedi’r cwbl, ym mis Rhagfyr 2019, fe enillodd y Ceidwadwyr 14 o seddi yng Nghymru o dan ei arweinyddiaeth, gan gipio chwech o seddi gan Lafur.
Fodd bynnag, yn debyg i gadarnleoedd eraill Llafur lle cafodd y Ceidwadwyr lwyddiant, y naratif o gwmpas Brexit a’r addewid i’w gyflawni oedd yn bennaf gyfrifol am eu llwyddiant.
Mae rhywun yn cael y teimlad mai rhoi benthyg eu pleidlais i Boris Johnson a’r Ceidwadwyr roedd pleidleiswyr ac y byddai yna gryn waith i’w cadw’n las.
A dros ei ddwy flynedd a hanner gythryblus wrth y llyw, mae’n saff dweud na wnaeth e lawer i gadw ffydd y pleidleiswyr hynny.
Yn wir, erbyn diwedd mis Mehefin 2022 roedd 63% o bobol yng Nghymru’n credu y dylai ymddiswyddo.
Lai na mis yn ddiweddarach, fe gawson nhw eu dymuniad ac erbyn Medi 5, fe fydd yna Brif Weinidog newydd wrth y llyw.
Y berthynas gyda Mark Drakeford
Mae hi’n deg dweud na fu gan Boris Johnson y berthynas orau ag arweinwyr eraill y Deyrnas Unedig yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog.
Yn sicr, fe welsom y straen yn ei berthynas gyda Mark Drakeford yn dod i’r amlwg ar sawl achlysur.
Mewn rhaglen ddogfen – Prif Weinidog mewn Pandemig – a gafodd ei darlledu ar S4C fis Mawrth y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn “wir, wir ofnadwy”, yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra.
Yn gynharach yn y rhaglen, dywedodd Mark Drakeford ei fod ef a Boris Johnson “yn bobol wahanol iawn”.
“Mae’r byd trwy lygaid Boris Johnson mor wahanol i’r byd mae pobol yng Nghymru yn ei weld,” meddai.
“Mae’n anodd weithiau i ddeall o ble mae e’n dod a pham mae e’n gwneud yr hyn mae’n ei wneud.”
Yn fwy diweddar – fis Ionawr eleni – honnodd Mark Drakeford nad oedd gan Boris Johnson “awdurdod moesol” i arwain y Deyrnas Unedig, rhywbeth y daeth ei Aelodau Seneddol ei hun i gytuno ag e yn y bôn.
Datganoli
Yng nghyfnod Boris Johnson yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae dadlau ffyrnig wedi dyfod rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ynglŷn â meysydd datganoledig.
Dyw rhywun ddim wedi cael y teimlad ei fod erioed wedi bod y cefnogwr mwyaf o ddatganoli.
Yn wir, fe aeth mor bell â disgrifio datganoli fel “camgymeriad mwyaf Tony Blair”, yn ôl ym mis Tachwedd 2020.
Ac yn sicr mae cynlluniau Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig am ddyfodol Cymru, a’i rôl o fewn yr Undeb, wedi gwyro ymhellach oddi wrth ei gilydd ers iddo ddod yn Brif Weinidog.
Tra bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am gael cyfrifoldeb tros Gyfiawnder a Phlismona, mae Llywodraeth Boris Johnson wedi ceisio canoli mwy o bŵer yn Llundain.
Mae Bil y Farchnad Fewnol – un o bolisïau mawr San Steffan yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd – wedi achosi cryn densiwn.
Nod honedig Bil y Farchnad Fewnol, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol – rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio ei fod yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth” sy’n “aberthu dyfodol yr undeb drwy ddwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”.
Wfftio’r gofidion hyn wnaeth Boris Johnson gyda’i lefarydd swyddogol yn mynnu mai bwriad Bil y Farchnad Fewnol yw darparu “rhwyd ddiogelwch gyfreithiol hanfodol” a fydd yn caniatáu i’r llywodraeth “gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau uniondeb marchnad fewnol y Deyrnas Unedig”.
Dyw’r dadleuon hyn ddim yn debygol o ddiflannu gydag ymddiswyddiad Boris Johnson, ond fe fydd ei ddylanwad ar wleidyddiaeth yng Nghymru yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod.