Mae cynghorydd lleol yn bryderus am gynllun i adeiladu gorsaf ynni yng Nghaernarfon fydd ddim yn creu unrhyw swyddi parhaol ar y safle.
Yn ôl Dawn Lynne Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn ward Cadnant yn y dref, does dim angen yr orsaf yno.
Mae cwmni Jones Brothers Rhuthun yn bwriadu gwneud cais cynllunio er mwyn adeiladu gorsaf nwy ar safle hen Chwarel Seiont.
Pe bai’r orsaf yn cael ei hadeiladu byddai’n defnyddio’r nwy a oedd yn arfer cyflenwi’r gwaith brics er mwyn creu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.
Byddai’r datblygiad yn cynnwys deng injan nwy naturiol, setiau cynhyrchu, ystafell gyfnewid ac adeilad cyfleuster lles i weithwyr cynnal a chadw’r safle mewn ardal o faint tua 3,300 metr sgwâr.
“Ddim angen y safle”
Pe bai’r cynlluniau’n cael eu caniatáu, byddai’n cymryd hyd at dri mis i adeiladu’r orsaf, a byddai’n weithredol am 25 mlynedd.
Mae’r cwmni wedi dweud na fydd unrhyw swyddi parhaol ar y safle, a gallai Ysbyty Eryri gael ei heffeithio gan “weithgareddau diwydiannol” yno.
Roedd y safle yn cael ei defnyddio fel compownd i weithwyr oedd yn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon, ac mae’r datblygwr hefyd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu creu ffordd newydd i’r safle oddi ar Ffordd Waunfawr ar yr A4085.
“Dydyn ni ddim angen o yn y safle yna,” meddai Dawn Lynne Jones wrth golwg360.
“Roedd Jones Brothers wedi rhoi addewid i drigolion sy’n byw yn y gwaelod yn y fan honno, yn Seiont Mill, y bysa’r tir yn cael ei wneud yn ôl yn jest rhywle saff felly.
“Doedd dim sôn bod ffasiwn beth am gael ei roi yna. Doedd dim sôn am ddim byd yn cael ei adeiladu yna.
“Does dim un swydd yn mynd i fod yna, dw i jest yn gwrthwynebu iddo.
“Dim y fan yno ydy ei le o.
“Y teimlad yn lleol yw bod [pobol leol] yn siomedig bod cwmni Jones Brothers yn mynd yn ôl ar eu gair.”
Gan ei fod yn cael ei ystyried yn gais o “arwyddocâd cenedlaethol”, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, fydd yn gwneud y penderfyniad, yn hytrach na Chyngor Gwynedd.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes modd iddyn nhw “gynnig sylwadau ar y cynnig penodol hwn gan y gallai gwneud hynny effeithio ar unrhyw benderfyniad y gallai gweinidogion Cymru orfod ei wneud ynghylch y mater yn y dyfodol”.
Mae golwg360 wedi gofyn i Jones Brothers am ymateb hefyd.