Mae’r elusen Age Cymru wedi codi pryderon ynghylch beth fyddai toriadau i wasanaethau bysiau yn ei olygu i bobol oedrannus.

Mae disgwyl y bydd tua 10% o lwybrau bysiau Cymru’n cael eu colli, wrth i’r £150m o gymorth argyfwng bysiau gan Lywodraeth Cymru ddod i ben.

Ond mae Age Cymru yn dadlau bod y gwasanaethau hyn yn hanfodol er mwyn galluogi pobol hŷn i fod yn annibynnol ac i fynychu apwyntiadau yn yr ysbyty neu’r feddygfa.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wrthi’n gweithio ar gynnig ariannu ar gyfer y flwyddyn er mwyn sicrhau bod teithwyr yn gallu parhau i fanteisio ar deithiau bysiau.

Fodd bynnag, yn ôl Altaf Hussain, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, mae angen gwneud mwy.

“Mae’n bwysig bod y Llywodraeth Lafur yn cael hyn yn iawn, ni allwn gefnu ar y genhedlaeth hŷn sy’n dibynnu ar y gwasanaeth bws,” meddai.

“Mae llawer o’n poblogaeth hŷn yn dioddef o faterion yn ymwneud ag iechyd a fydd ond yn cael eu gwaethygu gan straen toriadau bysiau, gan eu gadael yn ynysig ac yn unig.

“Rhaid i weinidogion Llafur gymryd mwy o ofal o’n poblogaeth oedrannus, maen nhw eisoes wedi eu siomi gyda rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, allan nhw ddim eu gadael yn ynysig hefyd gyda thoriadau bysiau.”

Mae hyn yn adlewyrchu pryderon Age Cymru y byddai colli’r gwasanaethau yn cynyddu unigrwydd o fewn y genhedlaeth hŷn ac yn achosi pobol i deimlo’n ynysig.

‘Angen ateb cynaliadwy’

Dywed Victoria Lloyd, prif weithredwr yr elusen, y gallai’r effeithiau ar bobol hŷn fod yn “sylweddol”.

“Rydyn ni eisiau i weithredwyr, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddod o hyd i ateb cynaliadwy i sicrhau bod pobol yn gallu byw eu bywydau bob dydd yn mynd o gwmpas y gymuned,” meddai.

“Pobol hŷn yw rhai o’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y toriadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus; dylid ystyried eu hanghenion a chlywed eu lleisiau mewn unrhyw benderfyniadau gaiff eu gwneud.”

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyllid pellach er mwyn cefnogi’r rhwydwaith bysiau.

“Fe wnaethon ni ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r diwydiant bysiau trwy’r pandemig a chyhoeddi £46m pellach ym mis Mai i gefnogi gweithredwyr ac amddiffyn rhwydwaith Traws Cymru,” meddai llefarydd.

“Ein blaenoriaeth hyd yn hyn oedd sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i redeg ac nad ydym yn wynebu cwymp mawr yn y diwydiant.

“Rydym nawr yn gweithio ar y cynnig ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol ar draws Cymru gyda mesurau blaenoriaeth bws i gadw teithwyr yn symud a gwneud teithio ar fysiau yn fwy deniadol.”