Mae cais wedi’i gyflwyno ar safle carafanau ar fferm gwartheg eidion cynghorydd Ceredigion yn y gobaith o “drochi pobol yn yr iaith Gymraeg”.

Mae’r cynlluniau, gafodd eu cyflwyno i gynllunwyr Ceredigion gan Mr A Davies fel rhan o gynllun arallgyfeirio ar fferm, yn ceisio newid y defnydd o’r tir yn Fronwen Isaf, Llanarth yn safle i 25 o garafanau symudol a gweithfeydd cysylltiedig, ynghyd â chyfleuster storio gaeafol ar gyfer carafanau.

Mewn datganiad cefnogol, dywed yr asiant Addison Design & Development fod y cynghorydd cymunedol Arwel Jones, cyd-berchennog a phedwaredd genhedlaeth y teulu i fod yn berchen ar fferm eidion 100 o stoc, ynghyd â’i wraig Mererid, yn ceisio arallgyfeirio ar y fferm i gwmpasu cyfle newydd ar gyfer cyrchfan i dwristiaid.

“O ganlyniad i gynllunio dilyniant a’r fferm yn cael ei rhannu rhwng Arwel a’i siblingiaid, mae llai o erwau ar y fferm bellach, sy’n golygu ei bod hi’n fwy anodd gwneud i’r fferm dalu os caiff ei ffermio yn y ffordd draddodiadol o hyd,” meddai’r cais.

“[Fel mae’r cyfrifon yn dangos] dydy’r fferm ddim wedi gwneud elw dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, ac felly maen nhw eisiau arallgyfeirio i ddod ag incwm ychwanegol i mewn i gefnogi’r fferm fel bod modd iddyn nhw barhau i fyw yno a sicrhau bod modd i’w merched fod y bumed genhedlaeth i ffermio Fronwen Isaf.”

Y Gymraeg

Bydd y Gymraeg yn rhan bwysig o fusnes y pâr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, medd y datganiad.

“Mae’r pâr hefyd yn optimistaidd fod modd trochi gwesteion yn yr iaith Gymraeg drwy gyflwyno ‘ymadrodd Cymraeg y dydd’, er mwyn addysgu gwesteion am y Gymraeg a’r diwylliant.

“Nod y fath nodweddion yw creu ymdeimlad cryf o le a chymuned Gymraeg.”

Wedi’u cynnwys yn y datganiad cais mae cynlluniau i ddatblygu’r “elfen o foethusrwydd ar gyfer ymwelwyr”, trwy ardal wrthdywydd wedi’i gorchuddio, gobeithion ar gyfer ardal chwarae i blant yn y dyfodol, a chawod awyr agored i gŵn hyd yn oed.

Mae disgwyl i anifeiliaid y safle fod yn atyniad sylweddol yn Fronwen Isaf, wrth i Arwel a Mererid Jones wahodd ymwelwyr i brofi’r anifeiliaid drwy fwytho’r gwartheg, casglu wyau’r ieir a bwydo’r geifr ar y fferm.

Mae’r pâr hefyd yn gobeithio defnyddio’r ardal i gynnal bandiau byw, bar symudol, sinema dan do, a chynnig ardal chwarae ategol i blant, ynghyd â chynnal digwyddiadau mympwyol ar gyfer cwsmeriaid ar y safle gan ddefnyddio busnesau lleol.

Y gobaith hefyd yw y gallai’r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau ar y cyd.

Daw’r datganiad i ben drwy ddweud, “Er bod yr ardal hon eisoes yn boblogaidd ymhlith safleoedd carafanau a gwersylla, mae’n bwysig sôn y bydd Fronwen Isaf yn unigryw wrth gyflwyno’u busnes drwy ymroddiad ac ymrwymiad parhaus i brofiadau cwsmeriaid.”