India yw’r wlad gyntaf i lanio llong ofod ger pegwn de y lleuad, ac mae’r llwyddiant yn “gam mawr ymlaen” i’r wlad, yn ôl gwyddonwyr o Gymru.
Mae taith ofod lwyddiannus Chandrayaan-3 yn golygu mai India yw’r bedwaredd wlad i lanio’n llwyddiannus ar y lleuad.
Does gan wyddonwyr ddim llawer o wybodaeth am begwn de’r lleuad ar hyn o bryd, ond y disgwyl yw fod yna ddŵr sydd wedi rhewi yno.
Bydd cerbyd bach, sy’n cael ei alw’n rover, yn dod allan o’r glaniwr, Vikram, ac yn crwydro o amgylch wyneb y lleuad er mwyn casglu data a lluniau, pe bai popeth yn mynd yn iawn.
Dim ond yr Unol Daleithiau, yr hen Undeb Sofietaidd a Tsieina sydd wedi glanio llongau gofod yn llwyddiannus ar y lleuad cyn heddiw (dydd Mercher, Awst 23).
Dyma’r trydydd tro iddyn nhw geisio cyrraedd y lleuad, a llwyddodd Chandrayaan-3 ychydig ddyddiau ar ôl i long ofod o Rwsia, Luna-25, golli rheolaeth a bwrw’r lleuad.
‘Cyffrous iawn’
Dywed Dr Rhys Morris o Adran Astro Ffiseg Prifysgol Bryste fod y llwyddiant yn “gyffrous iawn” gan nad oes neb wedi bod yn y rhan hwn o’r lleuad o’r blaen.
“Maen nhw newydd lanio felly dydyn nhw ddim yn glir a yw popeth yn gweithio eto ond mae yna gerbyd bach ar y llong ofod sydd fod i fynd o gwmpas ac archwilio wyneb y lleuad o amgylch lle glanion nhw,” meddai wrth golwg360.
“Gobeithio y bydd hwnna’n gweithio hefyd achos dyna ydy prif bwrpas y daith yma.
“Mae e’n gam mawr ymlaen i India.”
Mae pegwn y de wedi cael ei fapio uwchben y lleuad o’r blaen, ond dydy’r ardal ddim yn un hawdd ei gweld o’r ddaear.
“Mae e mewn ardal sydd ddim yn cael lot o oleuni o’r haul felly unwaith fydd pethau wedi rhewi, maen nhw’n aros wedi rhewi,” meddai Dr Rhys Morris.
“Does neb wedi tyllu yna chwaith, fydd hynna’n beth newydd a gawn ni weld be’ ddown nhw o hyd iddo.
“Dw i’n disgwyl y bydd dŵr i’w gael yna ar ffurf iâ.
“Ffeindion nhw olion haearn ar wyneb y lleuad o’r blaen, ac wrth gwrs mae hyn yn gyffrous iawn achos does neb wedi bod yn y darn hwn o’r lleuad, felly gawn ni weld be’ sy’n dod.
“Mae pobol fel Elon Musk yn edrych ymlaen at adeiladu gorsaf ar y lleuad fel cam i’r gofod, gan ei fod e’n haws lansio pethau o’r gofod nag yw e o’r ddaear, a dydych chi ddim eisiau mynd â’ch dŵr chi lan o’r ddaear os fedrwch chi osgoi hynny.
“Os oes peth yno’n barod, yna mae’n gwneud bywyd yn haws.”
‘Gweddol siŵr bod dŵr yno’
Mae taith ofod India’n awgrymu bod y wlad wedi dal fyny â gwledydd eraill, ac yn dangos sut mae’r byd wedi newid ers y 1960au a’r 1970au, yn ôl Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau yn Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
“O’r glaniwr yma mae yna rover bychan fydd yn rowlio ffwrdd a thynnu lluniau ac ati, os eith popeth yn iawn, ond mae hyn wedi cael ei wneud o’r blaen – fe wnaeth yr Undeb Sofietaidd wneud hyn o’r blaen, ac mae gan Tsieina rover ar y lleuad yn barod,” meddai’r Athro Geraint Jones, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol, wrth golwg360.
“Tydyn nhw [India], hyd yn hyn, ddim yn gwneud pethau dydy gwlad arall heb eu gwneud ond mae o’n dod â nhw fyny i’r un lefel â be’ oedd yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn rasio yn erbyn y naill ar llall i drio’i wneud yn y 1960au a’r 1970au.
“Felly, am fod Tsieina ac India wedi dal fyny mewn rhai meysydd yn y gofod, mae’n dangos fel mae’r byd wedi newid.
“Mae’r Rhyfel Oer drosodd ac rydyn ni’n gweld gwledydd eraill yn cyflawni pethau anodd iawn yn y gofod hefyd.
“Mae Tsieina wedi gwneud rhywbeth fysa chi’n medru dweud sy’n anoddach, maen nhw wedi glanio ar ochr bella’r lleuad.”
Bydd y rover bychan yn medru mesur beth sydd yn y prin ac ar y creigiau o amgylch y man lle glaniodd Vikram.
Ychwanega Geraint Jones fod pegwn y de yn ddiddorol iawn gan fod rhannau ohono wedi bod mewn tywyllwch parhaol ers miliynau o flynyddoedd.
“Felly mae pawb sy’n gweithio yn y maes yn weddol siŵr bod yna ddŵr yna,” meddai.
“Mae’n ddiddorol o ran y wyddoniaeth, ac yn y dyfodol fydd o’n rhywle fyddech chi’n medru cael dŵr, torri’r dŵr fyny a chael ocsigen, a hefyd medru defnyddio’r ocsigen a’r hydrogen sydd mewn dŵr fel tanwydd.
“Rydyn ni ddegawdau i ffwrdd o allu gwneud hyn, ond bydd hi’n bosib cael tanwydd rocedi o’r dŵr sydd ar y lleuad, felly mae nifer yn awyddus iawn i ddysgu mwy am sut mae’r dŵr yn y mannau yma ger pegwn y de.”