Mae Llywodraeth Cymru wedi’u beirniadu’n chwyrn gan y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch defnydd gweinidogion o’u ceir gwaith.
Maen nhw’n galw’r defnydd yn “rhagrithiol” o ystyried pryderon y Llywodraeth am yr hinsawdd.
Daw’r wybodaeth yn dilyn cwestiwn ysgrifenedig gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac wrth ymateb fe ddatgelodd Llywodraeth Cymru fod ceir gwaith wedi cael eu defnyddio 1,979 o weithiau rhwng mis Mai y llynedd a mis Ebrill eleni.
Tra bod y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi defnyddio’u ceir lai na 50 o weithiau’r un yn ystod y cyfnod hwn, roedd eraill wedi eu defnyddio dros bedair gwaith yn fwy cyson na hynny.
Roedd pum gweinidog wedi defnyddio’u ceir dros 200 o weithiau – gan gynnwys y Prif Weinidog (247), y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (270) a Gweinidog yr Economi (223).
Mae’r ffigyrau uchaf yn gyfystyr â thua chwe gwaith yr wythnos ar gyfer rhai gweinidogion.
Diffyg trafnidiaeth cyhoeddus
Un sydd wedi beirniadu’r defnydd yw llefarydd Trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ond ydy eu plaid nhw’r un mor euog?
Yn ôl Natasha Asghar, gwraidd y broblem yw diffyg darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus.
“Dw i’n byw yng Nghasnewydd; mae’n cymryd chwarter awr i fi fynd o fy nrws i’r Senedd yn y car ar ddiwrnod da,” meddai wrth golwg360.
“Pe bai bws yn mynd o weddol agos i fy nhŷ at y Senedd, neu’n ddigon agos, byddwn i’n fwy na hapus i’w ddefnyddio fe.
“Dw i wrth fy modd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, ac yn ymgyrchu drosti, ond mae angen seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf.
“Dydy hi ddim yn werth dal bws milltir a hanner i ffwrdd o’ch stepen drws a chael eich gollwng dwy filltir o’r Senedd.”
Dywed ei bod hi’n gweld y sefyllfa’n “chwerthinllyd”.
“Mae defnydd y gweinidogion o’u ceir gwaith wedi dod yn jôc ymysg ein gilydd,” meddai.
“Maen nhw’n ddigon hapus i ddefnyddio’u ceir am ba bynnag bwrpas, heb ddatgan sawl siwrne maen nhw’n eu gwneud.”
Rhagrithiol?
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn disgrifio’r sefyllfa fel un “ragrithiol.”
“Mae gweinidogion Llafur yn y Senedd yn aml yn pregethu wrth y gweddill ohonom am yr argyfwng hinsawdd,” meddai.
“Mae’n bosib iawn y bydd y Cymry’n ystyried defnydd Llafur o geir gweinidogol braidd yn rhagrithiol, o ystyried eu bod nhw wedi gorfodi polisïau eithafol ar y gweddill ohonom, fel gwahardd adeiladu ffyrdd a chyfyngiadau cyflymder 20m.y.a. cyffredinol.”
Dulliau eraill ddim bob tro’n bosib
Y cwestiwn mawr, felly, yw a ddylai gweinidogion Llywodraeth Cymru wneud mwy o ymdrech i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gweinidogion yn ymdrechu i wneud cynlluniau teithio amgen lle bo modd, ond dydy hynny ddim bob amser yn bosib oherwydd diogelwch ac ymrwymiadau gwaith.
“Bydd Gweinidogion bob amser yn ceisio defnyddio dulliau teithio eraill os oes modd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Ond, fel sy’n wir am lywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, mae angen teithio mewn car weithiau i fynychu digwyddiadau swyddogol.
“Ar ben yr ystyriaethau diogelwch, bydd swyddogion yn aml yn mynd gyda’r Gweinidogion, a byddant yn parhau i weithio wrth deithio mewn car, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd a galwadau rhithwir sy’n aml yn rhai cyfrinachol eu natur.”