Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud taliad o £50 i deuluoedd â phlant sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Mae’r taliadau ar gyfer y teuluoedd oedd eisoes yn gymwys, yn dilyn y cyhoeddiad ar ddechrau’r haf fod prydau gafodd eu cynnig gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig yn dod i ben.
Gan nad oes cymorth ariannol ar gyfer prydau am ddim yn dod gan y Llywodraeth bellach, mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo dros £220,000 ar gyfer y teuluoedd.
Bydd teuluoedd cymwys yn derbyn taliad o £50 yn uniongyrchol i’w cyfrifon banc.
‘Teuluoedd dal i wynebu heriau’
Yn ôl y Cynghorydd Rhiannon Birch, sy’n Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg a’r Celfyddydau o fewn y Cyngor, fe wnaeth y pandemig amlygu’r angen am gymorth.
“Cafodd taliadau gwyliau o’r math yma eu cyflwyno’n wreiddiol yn ystod y pandemig i gefnogi pobl ar adeg pan oedd niferoedd mawr yn wynebu ansicrwydd ariannol,” meddai.
“Ond, diolch byth, mae’r darlun coronafeirws wedi gwella’n sylweddol, mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu heriau wrth i gostau byw barhau i godi’n sydyn.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y taliadau hyn yn rhywfaint o help i leddfu’r pwysau hynny a helpu’r rhai sydd wedi cael eu taro caletaf gan brisiau cynyddol ddiweddar.”
Pwysau ariannol
Yn ôl Llywodraeth Cymru, ymyriad dros dro yn unig oedd y cyllid ychwanegol, ac roedd pwysau ariannol yn un o’r prif resymau dros ddod â’r arian hwnnw i ben.
“Yn dilyn nifer o estyniadau, fe wnaethon ni gadarnhau ym mis Mawrth y bydden ni’n cyllido’r trefniant tan ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai,” meddai llefarydd.
“Yn ystod yr haf, bydd yna brosiectau gwyliau o bob math ar gael ledled Cymru, gan gynnwys cynllun Bwyd a Hwyl, yr ydyn ni’n ei gyllido, a bydd ar gael ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol am y tro cyntaf.
“Rydyn ni’n parhau i gefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw, ac rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £3.3bn mewn rhaglenni a chynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol.”