Mae angen gwella ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl arolygwyr, mae angen gwella diogelwch y ward, a’r ffordd maen nhw’n rhannu gwybodaeth â chleifion ac yn diweddaru cynlluniau gofal cleifion.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ymweld â’r ward, sy’n asesu a thrin cleifion oedolion â phroblemau iechyd meddwl aciwt, yn ddirybudd am dri diwrnod ym mis Mai.

Roedd gan yr arolygwyr bryderon nad oedd bwrdd ‘cipolwg’ y staff yn cael ei orchuddio, allai olygu bod cyfrinachedd cleifion yn cael ei effeithio.

Wrth iddyn nhw edrych ar gofnodion cleifion, chafodd yr Arolygiaeth ddim sicrwydd bod cynlluniau gofal a thriniaeth cleifion yn adlewyrchu eu hanghenion unigol.

Gwelodd yr arolygwyr nad oedd rhai cynlluniau yn cael eu diweddaru, nad oedd y wybodaeth ynddyn nhw’n gyfredol neu nad oedd cynlluniau o’r fath ar waith o gwbl.

Doedd hi ddim yn glir pa ymyriadau therapiwtig oedd yn cael eu rhoi i bob claf chwaith.

Er bod rhai llyfrau a gemau ar gael yn yr ystafell fwyta, roedd hi’n ymddangos bod diffyg cyfleusterau therapi eraill ar y ward, meddai’r Arolygiaeth.

‘Gweithredu’n amserol’

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi bod y staff wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel ac urddasol.

Maen nhw hefyd yn nodi bod aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg ar y ward, a bod staff yn ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg er mwyn deall pwysigrwydd cwrdd ag anghenion ieithyddol cleifion.

Er hynny, wnaethon nhw ddim gweld unrhyw wybodaeth ddwyieithog yn cael ei harddangos ar y ward.

“Mae’n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Rydym wedi argymell nifer o welliannau o ganlyniad i’n harolygiad ac mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe weithredu mewn modd amserol.

“Mae’r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy’n nodi camau gwella a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y gwasanaeth yn erbyn hwn.”

‘Siomedig’

Wrth ymateb, dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod e “wedi siomi” wrth ddarllen nad yw anghenion gofal iechyd cleifion yn cael eu hateb ac nad yw cofnodion yn adlewyrchu’r asesiadau sy’n cael eu gwneud wrth i gleifion gael eu derbyn i’r ysbyty.

“Er bod angen i lwyth gwaith papur clinigwyr lleihau er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw fwy o amser i wella gofal cleifion, rhaid cofnodi gwybodaeth sylfaenol, cadw popeth yn gyfredol, a pharchu cyfrinachedd,” meddai Russell George.

“Byddwn yn annog y Llywodraeth Lafur i adolygu’r gwaith cadw cofnodion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe er mwynn sicrhau bod cynlluniau cleifion yn gyfredol ac er mwyn sicrhau nad ydy hon yn broblem ehangach.”