Dydy canlyniadau TGAU disgyblion Cymru ddim cystal ag oedden nhw y llynedd, ond maen nhw’n parhau’n well na’r hyn oedden nhw yn 2019 cyn y pandemig.
Mae’r patrwm hwnnw i’w weld yn nifer y disgyblion sydd wedi ennill graddau A* neu A hefyd.
Dyma’r ail waith i fyfyrwyr ymgymryd ag arholiadau haf sydd wedi’u marcio a’u graddio gan y byrddau arholi ers 2019.
Mae’r canlyniadau cyffredinol yn uwch na 2019 o ystyried graddau C ac uwch, ond yn is nag yr oedden nhw yn 2022 pan gafodd mesurau arbennig eu rhoi ar waith.
Gan gydweithio’n agos â chorff Cymwysterau Cymru, cyflwynodd CBAC fesurau cefnogol ar gyfer pontio’n ôl at y safonau cyn y pandemig.
Yn rhan o hyn, cafwyd gwybodaeth ymlaen llaw mewn perthynas ag asesiadau i liniaru’r amharu a fu ar addysgu a dysgu oherwydd y pandemig.
Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru y bydd canlyniadau ar y cyfan hanner ffordd rhwng 2019 a 2022, ac maen nhw’n dweud y dylid pwyllo cyn cymharu â chanlyniadau unrhyw flynyddoedd blaenorol gan fod y dulliau asesu a’r amgylchiadau’n wahanol.
Uchafbwyntiau:
- cyfanswm y cofrestriadau 300,409 – i lawr 3.4% ar 2022
- graddau A*/9 – A/7 i lawr ar y llynedd, ond yn parhau i fod uwchben lefelau cyn y pandemig
- Mae Cemeg yn disodli Bioleg yn y deg uchaf o bynciau mwyaf poblogaidd
- Mae’r twf yn parhau ar gyfer Astudiaethau Busnes gyda 4,455 o gofrestriadau (+31.9% o 2022, a +49.1% ers 2019)
- Tyfu mewn poblogrwydd mae Sbaeneg hefyd, gyda’r cofrestriadau ar i fyny 11.7% i 1,475 Canlyniadau eleni o gymharu â 2019 a 2022
Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau (ar C/4 ac uwch) wedi cynyddu ers 2019:
- A*/9 – A/7 i fyny gan 3.3 pwynt canrannol (pc)
- A*/9 – C/4 i fyny gan 2.1pc
- A*/9 – G/1 i lawr gan 0.3pc
Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau yn is na 2022, ac mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod y safonau’n dychwelyd yn raddol i’r hyn oedd yn bodoli cyn y pandemig:
- A*/9 – A/7 i lawr gan 3.4pc
- A*/9 – C/4 i lawr gan 3.7pc
- A*/9 – G/1 i lawr gan 0.4pc
Perfformiad cyffredinol TGAU
Mae canlyniadau TGAU Cymru’n dangos bod y graddau uchaf A*/9- A/7 wedi’u dyfarnu i 21.7% o’r ymgeiswyr, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 64.9% o’r ymgeiswyr.
Cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer TGAU yng Nghymru eleni oedd 300,409, sydd i lawr 3.4% (10,663 o gofrestriadau) ar 2022.
Mathemateg
Yng Nghymru, gall myfyrwyr sefyll naill ai’r TGAU Mathemateg neu’r TGAU Mathemateg-Rhifedd, ac mae’r mwyafrif yn cymryd y cyfle i astudio’r ddau bwnc.
Mae’r ffigurau eleni’n dangos bod 15.2% o ymgeiswyr wedi ennill graddau A*/9 – A/7 am y TGAU Mathemateg, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 53.5% o’r ymgeiswyr.
Yn y cyfamser, mae’r ffigurau eleni’n dangos bod 16.6% o ymgeiswyr wedi ennill graddau A*/9 –A/7 am y TGAU Mathemateg – Rhifedd, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 55.4% o’r ymgeiswyr.
Yn achos y TGAU Mathemateg a’r TGAU Mathemateg-Rhifedd, canlyniad gorau’r rhai 16 mlwydd oed ar draws cyfresi mis Tachwedd a’r haf yw’r adlewyrchiad mwyaf priodol o’r cofrestriadau a’r canlyniadau.
Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg
A*/9 – A/7 oedd 15.8% o’r holl raddau gafodd eu dyfarnu i ymgeiswyr TGAU Saesneg Iaith eleni, gyda 60.7% o ymgeiswyr yn ennill gradd C/4 neu uwch.
Ym mhwnc TGAU Llenyddiaeth Saesneg, enillodd 20.6% o ymgeiswyr raddau A*/9 – A/7, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 73.1% o ymgeiswyr.
Yn debyg i’r TGAU Mathemateg, yn achos TGAU Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Saesneg, canlyniad gorau’r rhai 16 mlwydd oed ar draws cyfresi mis Tachwedd a’r haf sy’n adlewyrchu’n fwyaf priodol y cofrestriadau a’r canlyniadau.
Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith
Enillodd 17.3% o ymgeiswyr raddau A*/9 – A/7 am y TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 71.9% o’r ymgeiswyr.
Yn y cyfamser, enillodd 22.4% o ymgeiswyr TGAU Cymraeg Ail Iaith raddau A*/9 – A/7, gyda gradd C/4 neu uwch wedi’i dyfarnu i 63.1% o ymgeiswyr.
Canlyniad gorau’r rhai 16 mlwydd oed ar draws y flwyddyn academaidd yw’r adlewyrchiad mwyaf priodol o’r cofrestriadau a’r canlyniadau TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.
Gwyddorau ar wahân a dwyradd
Cyfran yr ymgeiswyr yn ennill A*/9 – A/7 ym mhynciau Bioleg, Cemeg a Ffiseg yw 45.8%, 46.2% a 46.8%, yn ôl eu trefn.
Enillodd 90.0% (Bioleg), 89.1% (Cemeg), a 91.0% (Ffiseg) radd C/4 neu uwch.
Cafodd graddau A*/9 – A/7 eu dyfarnu i 9.3% o ymgeiswyr TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd, ac enillodd 52.5% o ymgeiswyr radd C/4 neu uwch.
Mae’r un safon academaidd yn perthyn i’r cymhwyster Dwyradd a’r gwyddorau ar wahân.
Fodd bynnag, y gwyddorau ar wahân sy’n parhau i ddenu’r gyfran uchaf o’r myfyrwyr mwyaf galluog o hyd.
Llongyfarchiadau
“Ar ran y CGC, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr TGAU a galwedigaethol ar yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni heddiw,” meddai Ian Morgan, cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cyd-gyngor Cymwysterau.
“Mae’r ymdrech a’r dyfalbarhad a ddangoswyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau i’w gweld yn amlwg yn eu canlyniadau.
“Dymunwn y gorau iddynt ar gyfer yr hyn y byddant yn ei wneud nesaf o ran addysg bellach, hyfforddiant, a chyflogaeth.
“Hoffem ddiolch i athrawon, tiwtoriaid a swyddogion arholiadau sy’n gweithio mewn ysgolion ar draws y wlad.
“Mae eu gwaith caled nhw a’u holl gefnogaeth ac ymrwymiad wedi sicrhau llwyddiant y gyfres arholiadau eleni.
“Rydyn ni hefyd am gydnabod pa mor werthfawr yw cyfraniad rhieni a gofalwyr, mae’r gefnogaeth ganddyn nhw wedi bod yn gymaint o gefnogaeth i’r myfyrwyr sy’n ennill y canlyniadau hyn heddiw.”