Mae’r staff yn ei hadnabod hi erbyn hyn. Yn cynnig helo bach tawel a gwên gyfarwydd, yn gwybod y bydd hi’n cadw i’r un patrwm – yr amgueddfa, yr oriel, pwyllo am ychydig o flaen gwaith y preRaphaelites. Os ydy’r babi’n cysgu yn y goetsh, bydd hi weithiau’n eistedd ar y fainc o flaen y cerflun o Ioan Fedyddiwr, yn gadael i’w meddwl grwydro.

Mae’r fan hyn yn fwy cartrefol nag adref.

Y celf a’r creiriau, y ddaeareg a’r esgyrn a’r holl hen hanesion. Does ganddi fawr o deulu ar ôl. Mae’r rhai â’i magodd hi wedi gadael i greu teuluoedd newydd, hapus, heb roi fawr o feddwl i’r hen deulu a adawyd ar ôl. Ond mae’r lle yma’n perthyn iddi. Mae’r adran sy’n esbonio sut ffurfiwyd tir Cymru yn dweud hanes y ddaear gadarn ble mae hi’n cerdded. Esgyrn Dynes Goch Pafiland yn teimlo fel bedd hen nain iddi. Yr holl baentiadau yn lliwio golygfeydd o fywydau sydd fel petaent ynghlwm â’i gorffennol hi. Mae hi’n teimlo fel Cymraes yma. Yn teimlo fel petai’n adnabod hi ei hun.

Ers i’r babi gyrraedd, mae’n dod yma’n aml. Yr amgueddfa a’r llyfrgell ydi’r unig leoedd lle y gall fynd heb fod rhywun yn disgwyl iddi wario arian, ac mae hi mor ddiolchgar eu bod nhw’n llefydd croesawgar. Dim fel hyn oedd hi wedi dychmygu pethau. Roedd hi wedi meddwl am goffis o’r caffi yn y parc, a chrwydro’r siopau yn chwilio am ddillad bach ciwt, ac eistedd gyda mamau eraill mewn llefydd chwarae, yn cymharu patrymau cwsg y babis ac yn rhannu cyfrinachau. Doedd hi heb ddychmygu’r cynnydd yn y rhent, na’r ffaith fod ei bil bwyd bron â dyblu, nac y byddai hi mor anodd gwneud ffrindiau sy’n famau a hithau’n rhy dlawd i fynd allan am ginio.

Mae adref yn llonydd ac yn oer, a does ganddi mo’r arian i roi’r gwres ymlaen. Gymaint gwell ydi rhoi’r babi yn ei siwt gynnes a dod â fo yma, lle bydd hi’n ei godi yn ei breichiau ac yn dysgu geiriau o’i hanes ei hun iddo – ‘Deinosor’ a ‘mynydd’ a ‘Cymru’. Byddai’n gweddïo i Dduw nad oedd hi’n ymddiried ynddo y byddai’r un bach yn tyfu i gael dod â’i blant ei hun yma, a chael teimlo fod lle fel hyn, oedd yn rhannu hanes heb ofyn am dâl mynediad, yn ryw fath o gartref i bwy bynnag oedd ei angen.