Mae’r Ceidwadwyr wedi dangos “lefel newydd o anallu” drwy beidio â chadarnhau enwau ymgeiswyr ym mhob etholaeth yng Nghymru hyd yma, medd Llafur.

Ddyddiau’n unig cyn y dyddiad cau, dydyn nhw ddim wedi llenwi saith sedd allan o’r 32 etholaeth yng Nghymru.

Yn sgil newid ffiniau, bydd gan Gymru 32 aelod seneddol yn lle’r 40 a fu gynt.

“Dyma lefel newydd sbon o anallu gan y Torïaid,” meddai Jessica Morden, cadeirydd ymgyrch Llafur Cymru.

“Yn gyntaf maen nhw’n torri nifer yr aelodau seneddol yng Nghymru, ac wedyn dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi gallu dod o hyd i ddigon o ymgeiswyr sy’n barod i gyfaddef eu bod nhw’n Dorïaid mewn etholiad brys maen nhw eu hunain wedi’i alw.

“Gallai’r saith etholaeth lwcus hyn ddianc rhag anhrefn ymgeisydd Torïaidd, ond ar Orffennaf 4 gall Cymru gyfan bleidleisio dros newid gyda Llafur Cymru.”

Beth mae’r newid ffiniau yn ei olygu i ni yng Nghymru?

Bethan Lloyd

Am y tro cyntaf, fe fydd pawb yn pleidleisio mewn etholaethau newydd