Mae Alix Popham, cyn-chwaraewr rygbi Cymru, yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru orfod camu i mewn i helpu pe na bai’r cyrff llywodraethu’n mynd i’r afael â chyfergydion i’r pen.

Fe wnaeth y cyn-flaenasgellwr ac wythwr, ddechreuodd ei yrfa gyda Chlwb Rygbi Casnewdd, ddatgelu yn 2020 ei fod e wedi cael diagnosis o CTE tebygol a dementia cynnar o ganlyniad i anaf trawmatig i’r ymennydd yn ystod ei yrfa oedd wedi para 13 o flynyddoedd.

Enillodd e 33 o gapiau dros ei wlad.

Mae bron i 300 o gyn-chwaraewyr, gan gynnwys cyn-chwaraewyr Cymru, yn rhan o achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby, corff llywodraethu’r gêm rynglwadol, yr RFU yn Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru tros anafiadau i’r ymennydd.

Dyletswydd

Dywed Alix Popham, un o’r chwaraewyr amlwg cyntaf i ddatgelu ei ddiagnosis ac i siarad ynghylch ei effaith, fod gan y cyrff llywodraethu ddyletswydd i wneud y gêm yn fwy diogel.

Ond dywed y gallai’r llywodraeth orfod gweithredu os ydyn nhw’n methu gwneud hynny – ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod chwaraewyr a rhieni chwaraewyr ifainc yn ymwybodol o’r peryglon a sut i ymateb i gyfergydion.

“Dw i’n credu y gallai ddod lawr i [gamau cyfreithiol] pe na bai World Rugby yn gwneud y newidiadau sydd angen eu gwneud, ond dw i’n dal i garu rygbi,” meddai.

“Dw i eisiau iddi barhau, ond mae angen i chwaraewyr, mamau a thadau wybod y gwir.

“Os nad yw hynny’n digwydd trwy World Rygbi, ac os nad yw’n treiddio i lawr [i’r undebau], dw i’n credu y bydd y llywodraeth yn camu i mewn, ond gobeithio na ddaw hi i hynny.”

Mae gorffwys am hyd at bedair wythnos ar ôl cyfergyd yn bwysig, medd Alix Popham, ynghyd â lleihau cyswllt mewn sesiynau ymarfer, a thra nad yw am droi rhieni i ffwrdd o alluogi eu plant i chwarae’r gamp, dywed fod angen “parchu” anafiadau i’r ymennydd.

“Er nad ydych chi’n gallu ei weld e, dydy hynny ddim yn golygu nad yw e wedi digwydd,” meddai.

Gwleidyddiaeth

Fe fu’r cyn-chwaraewr rhyngwladol, oedd hefyd wedi chwarae i’r Scarlets, yn siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ar ôl bod yn bresennol yn lansiad ymgyrch etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr Cymreig yn Sir Fynwy, lle mae e’n byw bellach.

Fe wnaeth David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, ac Andrew RT Davies, arweinydd y Grŵp yn y Senedd, annerch aelodau’r blaid yn y digwyddiad yr aeth Alix Popham iddo gyda Rynard Landman, fu’n chwaraewr proffesiynol yn Ne Affrica cyn ymuno â’r Dreigiau yng Nghasnewydd yn 2014 ac sydd hefyd wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy.

Prin fod gwleidyddiaeth yn bwnc trafod yn yr ystafell newid, medd y ddau chwaraewr, ond maen nhw eisiau dangos eu cefnogaeth unigol i’r Ceidwadwyr.

“Dw i’n byw yma nawr â theulu ifanc, a dw i eisiau rhywfaint o newid i ‘mhlant ar gyfer eu dyfodol,” meddai Alix Popham, sydd wedi cadarnhau ei fod e’n bwriadu pleidleisio dros y Torïaid ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth Mike Ruddock, cyn-brif hyfforddwr Cymru, helpu Llafur i lansio’u maniffesto nhw ar gyfer etholiad cyffredinol 2005 – pan enillodd Tony Blair drydydd tymor hanesyddol i’r blaid – fisoedd ar ôl arwain Cymru i’w Camp Lawn gyntaf ers 27 o flynddoedd, gan ddweud ei fod e “wedi pleidleisio dros Lafur erioed”.

Dywed Alix Popham â’i dafod yn ei foch nad oedd e wedi ennill cynifer o gapiau ag y dylai fod wedi’u hennill yn ystod cyfnod yr hyfforddwr o’r Blaina wrth y llyw, ond nad oedd e’n ymwybodol o’i wleidyddiaeth.

“Does dim sgyrsiau am hyn yn yr ystafell newid,” meddai.

Dywed Rynard Landman, oedd wedi pleidleisio yn etholiad cyffredinol De Affrica yr wythnos hon, ei fod e eisiau bod yn rhan o’r “gymuned ac ychydig bach o’r gymuned”.

“Cafodd fy un bach ei eni yng Nghaerdydd ac mae’n mynd i gael ei fagu’n Gymro, felly dw i eisiau diogelu ei ddyfodol e o ran ei addysg,” meddai.

Hiliaeth a materion cymdeithasol eraill

Fe wnaeth y cyn-flaenwr gyd-chwarae ag Ashton Hewitt o Gasnewydd, sydd wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â materion ynghylch hiliaeth ac i annog newid cymdeithasol, ond dywed fod ymateb troliaid ar-lein wedi ei ddiflasu hefyd.

“Os ydych chi’n siarad am yr hyn rydych chi’n credu ynddo fe, mae’n dangos eich cymeriad a’r person ydych chi,” meddai Rynard Landman, ei hen gyd-chwaraewr gyda’r Dreigiau.

“Yn amlwg, fe fydd rhai gwrthwynebwyr; bydd yna wrthwynebwyr ym mhopeth rydych chi’n ei wneud.

“Roedd gan Alix bobol nad oedden nhw’n credu ei fod e’n chwaraewr rygbi da, a dw i wedi cael pobol nad oedden nhw’n credu fy mod i’n chwaraewr rygbi da; rydych chi’n cael hynny ym mhob man, ac mae’r un yn wir am wleidyddiaeth.

“Dywedwch beth rydych chi’n credu ynddo fe, gwnewch safiad drosto fe, a byddwch yn chi eich hunain.”

Cefnogaeth

Fe wnaeth David TC Davies groesawu cefnogaeth Alix Popham a Rynard Landman, gan ddweud y byddai’r ymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn debyg i gêm Chwe Gwlad Cymru yn erbyn yr Alban eleni, pan oedd Cymru ar ei hôl hi o ugain pwynt ar yr egwyl.

“Y tro diwethaf i fi weld gêm ryngwladol oedd Cymru yn erbyn yr Alban, ac roedd yr holl weithgarwch yn yr ail hanner, a dyna fydd yn digwydd yn yr etholiad hwn,” meddai yn y digwyddiad.

Ond wnaeth e ddim sôn ei bod yn dal i fod yn golled, o 27-26, er iddyn nhw frwydro’n ôl yn yr ail hanner.