Mae Cory Hill a Liam Williams, sydd wedi bod yn chwarae eu rygbi yn Japan, yn dychwelyd i garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau’r haf.
Dydy Cory Hill heb fod yn rhan o garfan Cymru ers tair blynedd, ond mae anafiadau a diffyg enwau i chwarae yn yr ail reng yn golygu ei fod yn dychwelyd i garfan 36 dyn Warren Gatland.
Bydd Cymru’n chwarae yn erbyn De Affrica yn Twickenham ar Fehefin 22, cyn y bydd 34 aelod o’r garfan yn teithio i Awstralia am dair gêm.
Mae Dewi Lake, Jac Morgan, Christ Tshiunza, Taine Plumtree a Ben Carter yn dychwelyd ar ôl methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn sgil anafiadau hefyd.
Fydd Josh Adams, Ryan Elias na Will Rowlands ddim yn rhan o’r garfan, fel eu bod nhw’n cael amser i ffwrdd o’r gêm dros yr haf.
‘Parhau i weithio’n galed’
Mae’r garfan hefyd yn cynnwys pedwar sydd heb chwarae dros eu gwlad o’r blaen. Y rheiny yw Ellis Bevan a Jacob Beetham, mewnwr a chefnwr Caerdydd, ynghyd â’r asgellwyr Keelan Giles (Gweilch) a Josh Hathaway (Caerloyw).
“Rydyn ni wedi dewis carfan fwy oherwydd na fydd y chwaraewyr sy’n chwarae i glybiau yn Lloegr ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica,” meddai Warren Gatland.
“Felly byddwn ni’n cwtogi’r garfan o 36 i 34 er mwyn mynd i Awstralia.
“Dw i’n meddwl bod pawb yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod ein bod ni’n adeiladu tuag at 2027.
“Roedd yna adegau yn ystod y Chwe Gwlad pan wnaethon ni chwarae rygbi da a rhoi’r gwrthwynebwyr dan rywfaint o bwysau, ond doedden ni, mae’n debyg, ddim digon cywir.
“Rhaid chwarae am gyfnodau hirach, rhoi dau hanner ynghyd a rhoi perfformiad 80 munud at ei gilydd, rhywbeth sy’n rhoi hyder i chi ac yn rhoi cyfle i chi ennill gemau.
“Rydyn ni angen adeiladu ar hynny. Rydyn ni angen parhau i weithio’n galed. Mae gennym ni rywfaint o brofiad yn dychwelyd i’r garfan hefyd, ac ambell chwaraewr cyffrous, sy’n dda.”
Dywed y prif hyfforddwr y byddan nhw’n penderfynu ar gapten unwaith y bydd y garfan wedi dod ynghyd.
Bydd Cymru’n chwarae De Affrica ar Fehefin 22 cyn herio Awstralia ar Orffennaf 6 ac 13, ac yna’r Queensland Reds yn Brisbane ar Orffennaf 19.
Blaenwyr (22)
Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Dewi Lake, Evan Lloyd, Sam Parry, Keiron Assiratti, Archie Griffin, Dillon Lewis, Harri O’Connor,Henry Thomas, Ben Carter, Cory Hill, Dafydd Jenkins, Matthew Screech, Christ Tshiunza, Mackenzie Martin, Jac Morgan, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Olwyr (14)
Ellis Bevan, Gareth Davies, Kieran Hardy, Sam Costelow, Mason Grady, Ben Thomas, Nick Tompkins, Owen Watkin, Rio Dyer, Keelan Giles, Josh Hathaway, Liam Williams, Jacob Beetham, Cameron Winnett.